Hwyl a Hamdden | Dinbych: Am Dro Rownd y Fro
O’r diwedd, mae Eisteddfod yr Urdd yn ôl! Er iddi gael ei chynnal ar ein teledu a’n dyfeisiau digidol, does yna ddim byd gwell ‘na throedio’r maes go iawn a throchi yn y celfyddydau, y bands byw a’r stondinau di-ben-draw.
Eleni, daw’r Eisteddfod i Ddinbych, tref sydd wedi bod yn amyneddgar iawn yn disgwyl am ymweliad ‘rhen Mistar Urdd.
Os byddwch chi’n gwneud y trip i’r maes wythnos nesa, cofiwch wneud y mwyaf o’r lleoliad hynafol yma. Yn groes i'r Eisteddfod fodern, mae tref marchnad Dinbych mor gyfoethog yn ei hanes a daw hynny’n amlwg i chi wrth i chi drafeilio i’r maes.
Mae Lysh Cymru wedi bod wrthi’n brysur yn holi trigolion Dinbych am eu hoff lefydd yn yr ardal i sicrhau eich bod chi, ein darllenwyr, yn gallu gwneud y mwyaf o’ch trip i Eisteddfod yr Urdd 2022!
Helo hanes
Os fynnwch chi saib o sbri’r ‘Steddfod, ewch i grwydro rownd y castell - byddwch chi’n falch iawn o fod wedi gwneud!
O’r castell cewch fwynhau golygfeydd hyfryd, o’r dref ei hun i’r bryniau cyfagos, a hyn oll wrth ddod i adnabod yr ardal a’i hanes ychydig bach yn well. Tybed oes modd gweld y maes?
Llymaid o’r llaethdy
Mae’r Cymry wrth eu boddau efo cytiau llefrith â pheiriannau sy’n cynnig ysgytlaeth ffres. Wel, fyddwch chi’n falch iawn o glywed fod Dinbych yn brolio ei chwt llefrith ei hun, hefyd.
Ewch i ymweld â Llaethdy Llwyn Banc, tafliad carreg o’r maes eleni er mwyn cefnogi cwmni teulu yn eu menter.
Dêt gyda natur
Efallai, ar ôl treulio cwpwl o ddiwrnodau yng nghanol tyrfa’r maes, byddwch chi’n ysu am damaid o lonyddwch.
Wedi ei leoli cwta 20 munud i ffwrdd o’r dref mewn car, mae’r llyn gwledig yma yn gartref i amryw o anturiaethau. Os byddwch chi awydd dysgu sut i badl fyrddio, yna dyma’r cyfle perffaith!
Os na fyddwch chi ffansi cael eich traed yn wlyb, yna peidiwch â phoeni. Mae llwybr hamddenol o amgylch y llyn cyfan! Am fwy o hwyl, allwch chi logi beiciau, hefyd.
Os fydd well gennych chi ymlacio yn hytrach nag anturio, yna mae gan Lyn Brenig cynnig arbennig i chi... “Dêt gyda Natur”! Gallwch archebu amser mewn cuddfan er mwyn sbecian ar adar, ac yn arbennig, nythod gweilch.
Danteithion di-ri
Ar eich siwrnai o amgylch y sir, mae’n debyg bydd angen bwyd arnoch chi i’ch cadw chi fynd! Un caffi sy’n cael ei argymell yn fawr gan drigolion Dinbych ydi Siop Goffi Ji-binc. Mae’n gaffi sydd wedi ymfalchïo i groesawu’r Eisteddfod i’w bro, felly dyma’r lle perffaith am hoe o’r hwyl, ac i wlychu pig.
Cofiwch, os fyddwch chi wedi dilyn cyngor Lysh ac wedi ymweld â rhai o’r llefydd yma, tagiwch ni! A chofiwch rannu gyda’ch ffrindiau!