Hwyl a Hamdden | Criw Creu

Dywed rhai bod gan bawb ddawn greadigol o ryw fath. Yr unig beth sydd angen ydi’r cyfle a’r awydd i greu. Dyna’n union mae cynllun Criw Creu gan Theatr Genedlaethol Cymru yn ei gynnig. Cyfle i flasu dulliau creadigol amrywiol a hynny gydag arbenigwyr adnabyddus yn eu maes.
Mewn sgwrs gyda Sian Elin Williams, Cydlynydd Cyfranogi gyda Theatr Genedlaethol Cymru, holodd Lysh am brosiect Criw Creu a sut all darllenwyr Lysh cymryd rhan yn y prosiect yma yn ogystal â chynlluniau'r mudiad yn y dyfodol.
Cynllun Creadigol
Sefydlwyd cynllun Criw Creu er mwyn cynnig cyfle i fod yn greadigol i bobl ifanc fyddai fel arfer heb gael y cyfle.
“Mae’n brosiect cenedlaethol sy’n cael ei redeg gennym ni yma yn Theatr Genedlaethol Cymru ond gyda chefnogaeth Llenyddiaeth Cymru ac Urdd Gobaith Cymru, hefyd,” eglura Sian.
“Mae’n grêt, oherwydd dim pawb sydd yn cael y siawns i fod yn greadigol, yn enwedig gyda Covid sydd wedi dwyn dwy flwyddyn o fod yn greadigol! Y nod yw cynnig cyfle i bobl ifanc er mwyn cael mynediad i’r celfyddydau a hynny dan arweiniad arbenigwyr yn y meysydd creadigol.”
Yng ngweithdai Criw Creu llynedd, roedd sawl wyneb cyfarwydd yn rhannu eu sgiliau.
“Roeddwn i’n cynnal y gweithdai drama a Lewys Wyn, o’r Urdd a hefyd o Yr Eira, wrth gwrs, roedd yn gwneud sesiynau cerdd,” meddai, cyn mynd ati i enwi mwy o enwau cyfarwydd. “Roedd Casi Wyn, Bardd Plant Cymru yn cynnal gweithdai hefyd, yn ogystal â Sioned Medi Evans, animeiddwraig o fri, yn gwneud sesiynau animeiddio.”
Carped Coch Criw Creu
Pen llanw’r prosiect oedd fideo, yn cyfuno gwaith gweithdai’r disgyblion at ei gilydd.
“Credaf ei fod o’n holl bwysig i nodi fod dim un math penodol o greadigrwydd, a dyna beth sy’n wych am y prosiect yma,” eglura Sian. “Mae’n rhoi blas ar fathau gwahanol o fod yn greadigol ac yn cyfuno bob un gweithdy i ddangos pwysigrwydd cyd-weithio a rhannu’r un nod.”
Wrth i’r disgyblion cyd-weithio gydag arbenigwyr creadigol a chyfuno eu sgiliau, crëwyd fideo arbennig.
“Jest cyn i’r ysgol orffen am yr haf, wnaethon ni fynd i mewn i gynnal premiere bach yn yr ysgolion ac roedd pawb wrth eu boddau!” dywed Sian, yn falch iawn o’r prosiect. “Roedd o’n lyfli gweld wynebau pawb yn dwlu ar y fideo.”
Roedd Sian yn awyddus hefyd i roi gwybod i ddarllenwyr Lysh ei bod hi eisiau clywed ganddyn nhw!
“Rydym eisiau sicrhau ein bod ni’n gallu cynnig beth sydd angen ar bobl ifanc ac ysgolion ac felly rydym eisiau clywed gan bobl ifanc ac ysgolion! Heb os, os fydd unrhyw un o ddarllenwyr Lysh eisiau taflu syniadau ata i, fydden ni’n dwlu clywed wrthyn nhw!”
Môr o Gyfleon
Nid Criw Creu ydi’r unig brosiect wedi ei deilwra i bobl ifanc. Holodd Lysh am gyfleoedd eraill ac eglurodd Sian am Gynllun Dramodwyr Ifanc.
“Yn ehangach i brosiect Criw Creu, mae sawl cynllun arall ar gyfer pobl ifanc gyda ni, fel Cynllun Dramodwyr Ifanc, sy’n digwydd bob blwyddyn ar gyfer annog pobl ifanc i ysgrifennu,” meddai. “Maen nhw’n cael cynnig mentora a hyfforddiant, ac mae mwy o wybodaeth am hyn ar ein gwefan.”
Dywedodd Sian yn gynt fod Theatr Genedlaethol Cymru yn rhoi pwyslais ar ateb y galw a’r gallu i gynnig beth sydd angen ar bobl ifanc ac aeth Sian ymlaen i egluro am gynllun peilot newydd sbon.
“Fyddwn ni’n cychwyn ar gynllun peilot newydd Ymgynghorwyr Ifanc oherwydd ein bod ni eisiau clywed barn a llais pobl ifanc yn ein gwaith ni. Dyma ryw fath o fforwm ble byddwn ni’n cwrdd o gwmpas 4 gwaith y flwyddyn dros Zoom fel cyfle i rannu barn a syniadau,” meddai gan annog darllenwyr Lysh i ymuno!
“Os byddai unrhyw un o ddarllenwyr Lysh â diddordeb mewn bod yn rhan o’r panel Ymgynghorwyr Ifanc, plîs cysylltwch!”
Ar gael i bawb
Mae’r cynlluniau sydd ar gael gyda Theatr Genedlaethol Cymru i’w weld yn brofiadau hynod o werthfawr, felly beth yw’r gost? Wel, does dim!
“Mae’n hollbwysig nodi mai cynlluniau am ddim yw’r rhain ar gyfer bobl ifanc,” mae Sian yn pwysleisio. “Mae’r cynlluniau yn hygyrch ac yn agored i bawb. Mae pawb yn cael yr un cyfle a dyma yw ein prif nod ni.”
Wedi i chi glywed am holl waith y theatr, mae Sian yn disgwyl yn eiddgar i glywed gennych chi. Os am ymuno gyda phanel yr Ymgynghorwyr Ifanc neu i rannu syniadau, anfonwch neges e-bost iddi i’r cyfeiriad yma: sian.elin@theatr.com
