top of page

Hwyl a Hamdden | Clybiau Lleol Ôl Ddy Wei!

Hwyl a Hamdden | Clybiau Lleol Ôl Ddy Wei!

Dyma Begw – swyddog y wasg Clwb Pêl-droed Nantlle Vale, sy’n cadw trefn ar gyfryngau cymdeithasol y clwb, ac sydd yn ôl bob tebyg, ‘ar y bêl’ wrth wneud hynny! Dyma flog ganddi, yn arbennig i #LyshCymru

Helo, gobeithio dach chi gyd yn cadw'n dda!

Mae yno bellach dros fis ers i mi wneud vlog i Lysh Cymru yn trafod diffyg ewros a phêl-droed ac mae'n saff i ddweud bod yna lot wedi newid dros yr wythnosau diwethaf. Ysgol yn ail gychwyn, darganfod trefn newydd, yn ôl i'r hen rwtin a dyma ni ar ein hwythnos olaf o wyliau’r haf. PEIDIWCH ag anghofio am sesiynau hyfforddi pêl-droed yn ail gychwyn a Lerpwl yn ennill y gynghrair!!

Lle ydan ni rŵan? Fysech chi yn galw ein cyfnod ni rŵan yn lockdown neu beidio? Beth bynnag dach chi yn ei alw fo, rydym yng nghanol datblygu ein normalrwydd newydd, y byd ar gyfer ein dyfodol! Mae rhaid edrych mlaen i'r normalrwydd newydd, diom ‘ots beth mae ein meddylfryd yn ceisio dweud wrthym! Mae rhaid ceisio cael yr hyder yn ôl a dechrau edrych mlaen i'r dyddiau llawn hwyl a chwerthin! Dwi ddim wedi ysgrifennu'r blog yma i drafod y firws, naddo wir. Dwi yma i sôn ychydig am y gymuned, y gwirfoddolwyr - calon ein cymunedau ni, sy’n rhoi llwyfan i’n timau pêl-droed lleol berfformio mewn cynghrair yn erbyn sawl tîm pêl-droed lleol. Y tîm o bobl sbeshal iawn tu ôl i'r llenni yn caniatáu i'r clybiau pêl-droed barhau a llwyddo!

Heb os ac oni bai mae ein milltir sgwâr wedi bod yn bwysig iawn i ni gyd yn ystod y cyfnod clo yma. Ein gwreiddiau, ein cymunedau. Mae hyd yn oed mynyddoedd ar ddiwrnod glawog yn rhoi gwên ar fy wyneb i. Rydym ni gyd fel pe bawn ni wedi disgyn mewn cariad gydag adre eto. Dwi’n lwcus iawn yma yn Nyffryn Nantlle, rwyf wedi gallu tyfu fyny gyda chymuned sydd wastad ar dân ac sydd bob tro yn gwneud ei gorau er lles pawb.

Yn ystod y cyfnod clo fe ges i’r fraint o ymchwilio’n ddyfnach i mewn i glybiau pêl-droed lleol ar gyfer darn o waith i BAC. Darllenais wahanol erthyglau am oriau a gwylio sawl cyfweliad byw. Un o bethau wnaeth fy nharo wrth ymchwilio oedd yr angerdd sydd gan y trigolion ar gyfer eu clybiau lleol. Bob cyfweliad neu erthygl mi roeddech yn gallu teimlo’r angerdd a’r brwdfrydedd oedd gan y bobl tuag at y clybiau. Yn fy marn i nid yw clybiau lleol yn cael digon o sylw - clybiau lleol yn ein milltir sgwâr sy’n sefydlu’r fflam ar gyfer chwaraewr pêl-droed y dyfodol! Gallwch gychwyn chwarae gyda eich clwb lleol a gorffen eich gyrfa gyda eich clwb, dyna be sy’n braf.

Alla i ddim pwysleisio digon gymaint o fudd ydy o i fod yn rhan o dîm. Mae clwb lleol yn eich gwella chi fel person, dach chi’n elwa yn eich hunan hyder, yn creu ffrindiau am oes ac mae’n ffordd dda o gymdeithasu. Nid ar chwarae bach mae cynnal gêm bêl-droed ar ddydd Sadwrn, mae yna oriau o waith cynllunio ac ymarfer. Talent yw pêl-droed, mae hi’n cymryd amynedd ac oriau i lwyddo a gyda thîm da tu ôl i chi, mi ydach chi’n gryfach!

Mae gan bob aelod o'r pwyllgor rôl i'w chwarae ar ddydd y gêm, sicrhau bod y cae ar ei orau, stafelloedd newid yn barod, caffi gyda bwyd a diod ar gael, oriau o gynllunio gan y tîm rheoli, ysgrifenyddes i wneud yn siŵr fod popeth yn rhedeg yn esmwyth, ceisio marchnata'r gêm gymaint a dach chi’n gallu a rhai eraill tu ôl i'r llenni yn helpu gyda phethau eraill.

Beth sy’n eich stopio ar Ddydd Sadwrn braf rhag mynd i helpu eich clwb lleol a gwylio gêm pêl-droed yr un pryd? Does dim rhaid i chi helpu’n rheolaidd ond mae par o ddwylo ychwanegol wastad yn handi ar gyfer unrhyw clwb er mwyn parhau yn y dyfodol.

Dwi’n falch iawn o allu dweud fy mod i’n rhan o glwb pêl-droed lleol sy’n dathlu canmlwyddiant ‘leni - CPD Nantlle Vale ac mae’r diolch yno i bobl sydd wedi treulio oriau er mwyn sicrhau llwyddiant i’r clwb. Dwi’n cofio mynd i wylio Nantlle Vale yn chwarae pan oedden nhw’n colli bron pob gêm ond dwi’n falch o ddweud fod yr haul wedi dod dros y bryn.

Nid ydy hi’n rhy hwyr i ymuno gyda phwyllgor eich clwb lleol. Mae pob tîm lleol angen eich cefnogaeth, ar ddiwrnodau gemau ac yn ariannol. Mae costau rhedeg clwb dyddiau yma yn cynyddu. Rydym wedi gael y cyfnod o aros adre a gwella ein hunain, nawr mae hi’n amser i ddod o’r cyfnod clo yma yn araf iawn gan cadw’n ddiogel a byw bywyd llawn hwyl a chwerthin. Cofiwch nid ydy hi’n rhy hwyr, mae drysau eich clybiau lleol wastad ar agor. Cerwch amdani! Mae’n RHAID sicrhau dyfodol hir oes i’n clybiau pêl-droed lleol!

Begw x

Hwyl a Hamdden | Clybiau Lleol Ôl Ddy Wei!
bottom of page