top of page

Hwyl a Hamdden | Calan Gaeaf Lysh

Hwyl a Hamdden | Calan Gaeaf Lysh

Wyt ti’n barod am Galan Gaeaf ddydd Iau yma? Dyma sbloetsh hwyliog #LyshCymru wrth i ti baratoi i ddathlu ar y 31ain Hydref...

Sbwci-bwci Bwydlen Calan Gaeaf Lysh

Tamaid i aros pryd
• Bysedd gwrach
• Blew pry cop

Prif gwrs
• Pelen llygad ystlum ar wely o esgyrn
• Penglog cath ddu wedi’i ferwi

Pwdin
• Bisgedi traed brain
• Hufen Ia-sol ar wallt gwrach

Diodydd
• Gwaed fampir
• Chwydfa Madfall

Oes gyda chi fwydlen gwell? Neu ydych chi’n pobi pethau arswydus? Cofia rannu’r lluniau gyda #LyshCymru ar Instagram!

Dathlu ar-lein: Syniadau ar gyfer dy Instagram
Oes yna fferm bwmpenni ger dy gartref? Cer yno, gwisga dy hoff ddillad hydrefol er mwyn creu llun campus i dy ddilynwyr. Calan Gaeaf chic, cariad!
Cer amdani a chreu ‘stori’ fach gyda chân arswydus, a fideo cyflym ohonot ti’n creu dy golur Calan Gaeaf. Mae’n werth mynd i ysbryd y dathlu, bwa-ha-ha!
Beth am greu addurniadau Calan Gaeaf, a rhannu’r lluniau ar Instagram? Mae sgôp enfawr fan hyn gyda chrefft. Cadw’n gynnil neu fynd dros ben llestri? Fyny i ti!
Bwyd bwyd bwyd! Bydda’n greadigol yn y gegin, a chreu trîts sbwci – a rhannu’r lluniau wedyn. Tynnu dŵr (neu waed?!) i’r dannedd... Wahaha!
Oes gen ti luniau ciwt o dy hun ers pan oeddet ti’n fach mewn gwisg Calan Gaeaf? Cer amdani, a’u rhannu.

Cornel Colur: Codi Ofn
Fel arfer, mae bach o golur yn gallu mynd yn bell. Ond yn yr achos yma – rhaid mynd amdani gydag edrychiad arswydus. Dyma tips #LyshCymru am sut i baratoi’r croen cyn taenu’r paent a’r colur yna ymlaen...
• Gwna brawf croen o unrhyw gynhyrchion newydd o flaen llaw – rhag ofn bod gen ti alergedd.
• Ceisia osgoi defnyddio colur neu bowdr babi ger fflamau agored.
• Dechreua gydag wyneb glân. Mae artistiaid proffesiynol yn argymell defnyddio astringent i gael gwared ar olew wyneb, ac yna rinsiad dŵr oer i leihau unrhyw dyllau bach yn y croen.
• Defnyddia gôt denau iawn o Vaseline i wneud tynnu colur yn haws. Gall fod yn anodd cael gwared â phaent wyneb.
• Gall chwys ddifetha colur, felly os wyt ti’n mynd i barti ac yn cynllunio noson egnïol o hwyl gythreulig, mae’n hollbwysig i osod y colur yn iawn. Mae cynhyrchion masnachol ar gael ond mae powdr babi yn rhad ac yn effeithiol. Bydd powdr llwch dros dy wyneb yn gwneud yn siŵr bod y colur yn aros yn dwt.

Traddodiadau Calan Gaeaf – ffeithiau oddi ar Wikipedia
• Fel arfer, mae pobl yn defnyddio pwmpen er mwyn creu llusern neu jaclantar ac mae'r plant yn gwisgo fel ysbrydion neu wrachod, gan guro ar ddrysau pobl eraill ac yn gofyn am "Gast neu geiniog" i gael rhywbeth da fel fferins/losin neu arian. Dyma ydy'r "hel calennig" modern erbyn hyn.
• Yn ardaloedd gwledig Cymru, roedd pobl yn codi coelcerth ar eu caeau ac yn defnyddio rwdan neu feipen er mwyn creu Jac o' Lantern. Roedd pobl yn dweud fod yr Hwch Ddu Gwta (hwch ddu heb ei chynffon) a dynes heb ei phen yn crwydro'r caeau, yn ddigon o reswm i'r plant ddod yn ôl i'r tai yn gynnar. Roedd rhai yn dweud fod eiddew yn dda i weld gwrachod.
• Mae rhai pobl yn llenwi powlen â dŵr hyd nes bod hi'n hanner llawn ac yn rhoi afalau ynddi. Bydd yr afalau yn arnofio ar y dŵr a bydd yn rhaid gafael ynddynt gan ddefnyddio'r dannedd.

• Yn yr Oesoedd Canol roedd yna arferion o roi bwyd i'r meirw, trwy gynnal gwledd fawr a rhoi torth neu gacen i'r tlodion. Hel bwyd cennad y meirw oedd yr hen enw ar hyn ac roedd trigolion Cynwyd, Corwen, Llansanffraid a Glyndyfrdwy yn ffyddlon iawn i'r ddefod hon tan yn ddiweddargwrachod.

Tynnu coes...
Pa blanhigion sydd wrth eu boddau gyda Chalan Gaeaf?
Bam-BŴ!

Beth yw hoff reid yr ysbryd yn y ffair?
Y sgeri-go-rownd, wrth gwrs!

Aeth dau fwystfil i barti Calan Gaeaf. Yn sydyn, dywedodd un wrth y llall, “Fe wnaeth y ddynes yna rolio ei llygaid arna i. Beth ddylwn i ei wneud?” “Bydda’n ŵr bonheddig a’u rholio nhw’n ôl ati.”

Beth wyt ti’n ei wneud i ddathlu Calan Gaeaf? Rho wybod i #LyshCymru ar Instagram neu beth am dagio Lysh yn dy luniau? Beth bynnag yw dy gynlluniau – mwynha, a bydd sbwci! Gwylia mas am yr hwch ddu gwta!

Hwyl a Hamdden | Calan Gaeaf Lysh
bottom of page