Hwyl a Hamdden | Byd y Bêl: Gyda'n Gilydd yn Gryfach
Begw Elain sy’n edrych yn ôl ar yr Ewros, ac yn edrych ymlaen at Gwpan y Byd...
Helo, gobeithio eich bod i gyd yn cadw’n iawn?
Anodd credu bod bron i dair wythnos ers i’r Eidal sicrhau eu buddugoliaeth yn erbyn Lloegr ac ennill Ewros 2020. Ar ôl blwyddyn ychwanegol o aros, cynhaliwyd yr Ewros ac mae gennym lawer o bethau i’w trafod.
Cychwynnodd y twrnamaint i Gymru yn Baku yn erbyn y Swistir gan ddod yn gyfartal (1-1) gyda’r peniad gan gawr y cae; Kieffer Moore. Roedd yr hanner gyntaf yn galed iawn i Gymru ond roedd yr hogiau yn dangos ffitrwydd cadarn ar y cae. Erbyn diwedd y gêm, roedd Cymru dan bwysau ac yn falch o’r pwynt ar gyfer y tabl. Fel arfer, rydym yn casáu VAR ond diolch byth, daeth y VAR i’r adwy yn ystod y gêm hon neu efallai wir, stori hollol wahanol fyddai gennym heddiw.
Aeth Cymru ‘mlaen i wynebu Twrci, un o’r timau roedd pawb rownd y byd yn gweld yn cyrraedd y rownd 16 olaf yn braf! Roedd rhaid i Gymru chwarae o dan awyrgylch anodd iawn; roedd gan Twrci 30,000 o gefnogwyr yn eu cefnogi a dim ond 400 yno dros Gymru fach. Roedd rhaid i Gymru trio peidio colli eu pennau ond gyda chefnogaeth arbennig y wal goch, roedd hi’n haws. Agwedd bositif o’r cychwyn oedd gan Gymru wrth ymosod â chryfder. Roedd y tîm yn cadw meddiant, rheoli’r tempo ac yn cadw’r bêl. Roedd yn gêm gystadleuol gyda Dan James fel mellten yn creu cyfleoedd i Gymru. Tri munud cyn hanner amser, dyma Gareth Bale yn cynorthwyo’r bêl i bendraw'r cae tuag at Ramsey, dyma Ramsey yn rheoli’r bêl drwy ei fownsio o’i ysgyfaint yn syth i’w draed ac yn ei chicio yn syth i gefn y rhwyd. Roedd hi’n gôl anhygoel, ac am bartneriaeth rhwng y ddwy seren!
Roedd Cymru yn gorffen yr hanner gyntaf gyda hyder ac roedd yr holl gyfleoedd yn dechrau gwella rŵan gyda sgôr amcangyfrif o tua 3-0 i Gymru erbyn hanner amser. Sgôr hanner amser oedd Twrci 0 Cymru. Un o’r pethau oedd yn gwneud yr Ewros yma yn arbennig i Gymru oedd y profiad i’r chwaraewyr ifanc; chwarae yn erbyn timau mawr a gosod stamp i'w hunain. Nôl yn 2016, roedd rhai o’r chwaraewyr yma yn sefyll eu harholiadau TGAU ac erioed wedi meddwl pum mlynedd yn ddiweddarach y bysa rhai yn chwarae i’w tîm cenedlaethol. Mi roedd Morrell a Rodon yn dda yn amddiffyn Twrci. Yn debyg iawn i haf 2016, roedd partneriaeth Ramsey a Bale yn anhygoel, mae’r ddau fel cŵn efo esgyrn; gweithio ac yn deall ei gilydd i’r dim. Yn ystod yr ail hanner, methodd Bale gic o’r smotyn gan fethu cyfle mawr. Diffyg hyder yn fy marn i achosodd hyn ar ôl iddo stopio ar ôl cicio'r gic o’r smotyn ond erbyn diwedd y gêm cynorthwyodd Bale , Connor Roberts ac anelodd am gôl yn yr amser ychwanegol. Sgoriodd Connor Roberts ac roedd pawb yn gwenu fel mae Bale yn gwenu ar y ddraig goch ar ei grys o fewn eiliadau. Diolch byth am Bale!
Mae’r hen ben bob amser yn bwysig mewn gêm o bêl-droed! Cyn y gôl, roedd ychydig o densiwn wedi bod rhwng chwaraewyr Cymru a Thwrci ond oedd Ampadu wedi mynd yno’n syth i arwain y cyfan a dweud wrth bawb am ddefnyddio eu pennau. Yn sicr, mewn rhai o flynyddoedd, Ethan Ampadu fydd yn gwisgo band capten i Gymru. Erbyn diwedd y gêm, roedd y garfan yn fwy gobeithiol ar gyfer gweddill y twrnamaint ac yn falch o allu cael buddugoliaeth o dan bwysau. Dyma oedd gôl gyntaf y chwaraewr adnabyddus Abertawe, Connor Roberts ers 2018, dan ni methu aros i weld mwy ar ein ffordd i Gwpan y Byd Qatar flwyddyn nesa’. Y Sgôr terfynol oedd Cymru 2 - Twrci 0. Roedd pawb wrth eu boddau ac yn falch iawn o’u perfformiad. Dim ond parhau'r un perfformiad ar gyfer y gêm nesaf oedd angen rŵan.
Yn Rhufain, roedd gêm olaf grŵp i Gymru a lwcus iawn roedden nhw’n gorffen yn ail yn eu grŵp, er iddyn nhw golli’r gêm olaf o 1-0 yn erbyn yr Eidal. Sgoriodd Matteo Pessina ar ôl 39 o funudau gan roi’r Eidalwyr ar y blaen yn yr hanner cyntaf. Roedd yr Eidal yn gryf o’r eiliad cyntaf ac yn hyderus ar y bêl a arweiniodd at rai o broblemau i Gymru. Roedd rhaid i Gymru frwydro a brwydro nes i bethau waethygu... Roedd rhaid i Gymru chwarae hanner awr olaf y gêm gyda deg dyn yn unig oherwydd y cerdyn coch a roddwyd i Ethan Ampadu. Gorffennodd y gêm gan arwain i Gymru sicrhau eu lle yn y rownd 16 olaf oherwydd y gwahaniaeth goliau yn dilyn buddugoliaeth 3-1 i’r Swistir. Roedd Cymru yn falch iawn o allu parhau. A dyma ffaith ddiddorol iawn i chi, mae Cymru wedi cyrraedd rowndiau olaf ym mhob cystadleuaeth maen nhw wedi cystadlu hyd yn hyn.
Y gêm nesaf oedd yr her fwyaf i Gymru, chwarae yn Amsterdam yn erbyn Denmarc yn y gêm 16 olaf. Roedd llawer o gymhlethdod am y gêm yma oherwydd bod cefnogwyr Denmarc yn gallu mynychu’r gemau ond rhai Cymru ddim oherwydd sefyllfa Covid-19 gyda gwledydd sydd ar restrau coch neu oren nifer o wledydd yn Ewrop. Cafodd Gymru ddechrau da a chadarn ar y bêl, gan ddechrau yn llawn hyder ond ddim am yn hir cyn i Ddenmarc ddechrau dominyddu dros Gymru. Sgoriodd Denmarc gôl hyfryd yn y 27 munud cyntaf a arweiniodd at gêm gwbl wahanol.
Y sgôr hanner amser oedd Denmarc 1 Cymru 0. Roedd Cymru yn dyfalbarhau yn obeithiol tuag at hanner amser. 8 munud i mewn i hanner amser, methodd Neco Williams clirio’r croesiad gan roi'r bêl ar draws bocs ei hun gan roi'r bêl yn daclus i Dolberg a sgoriodd y gôl yn syth i gefn y rhwyd. Sgoriodd Dolberg ei ail gôl a gafodd ei chadarnhau gan VAR. Roedd pethau’n mynd o ddrwg i waeth i Gymru gyda Maehle yn sgorio trydedd gôl i Ddenmarc dau funud cyn amser ychwanegol. Roedd Denmarc ar dân a gorffennodd y gêm yn dorcalonnus i Gymru wrth i Harry Wilson gael cerdyn coch yn y 90 munud a sgoriodd Denmarc yn yr amser ychwanegol. Y sgôr oedd 4-0 i Ddenmarc.
Doedd Cymru ddim yn haeddu cael mynd allan o’r twrnamaint fel hyn ond wrth edrych yn nôl, mae’r twrnamaint wedi bod yn gwbl annheg i Gymru! Roedd teithio yn un elfen o anfantais yn y twrnamaint gyda nifer iawn o wledydd yn cael chwarae adref tra bod Cymru wedi gorfod teithio i Baku, Rhufain ac Amsterdam. Ni chafodd gefnogwyr Cymru deithio i’r gemau ac yn bennaf oll, y penderfyniadau gafodd eu gwneud gan ddyfarnwyr o’r gemau gyda Chymru yn cael eu cosbi yn aml gyda chardiau. Yn ôl i eiriau perffaith Chris Gunter: “Doedden ni ddim yn haeddu’r sgôr hwnnw ond pwy ddywedodd fod bywyd yn deg. Mae’n brifo fel y diawl, ond mae brifo gyda rhai o fy mêts gorau a ffrindiau gorau dw i wedi rhannu ystafell newid gyda nhw ers blynyddoedd yn ei gwneud hi ychydig yn haws.”
Gwerthfawrogi - dyma dwrnamaint oedd yn llawn gwerthfawrogi! Chwaraewyr yn canu anthem wrth wynebu’r cefnogwyr, gwerthfawrogi pob dim; o VAR yn ein hachub i werthfawrogi ein teuluoedd a ffrindiau oedd yn gwylio’r gemau gyda ni. Dydy’r twrnamaint yma ddim wedi bod yn hawdd, mae wedi bod yn heriol mewn sawl ffordd ond mae wedi bod yn dwrnamaint i’w chofio. Ail wythnos o’r twrnamaint yn ystod y gêm rhwng Denmarc a’r Ffindir ddigwyddodd rhywbeth erchyll. Gafodd y pêl-droediwr enwog Chrsistian Eriksen ei daro’n wael a ddisgynnodd i lawr. Roedd yn gwneud yn union fel pawb arall, chwarae pêl-droed. Wrth iddo gael y driniaeth am dipyn o amser, fe wnaeth ei gyd-chwaraewyr ffurfio cylch o’i amgylch i warchod rhag y camerâu teledu a’r cyfryngau.
Roedd cefnogwyr y Ffindir wedi benthyg baneri i warchod o gwmpas y chwaraewyr ac yn sicr, dyma un o’r lluniau gorau o hanes pêl-droed i mi. Daeth bob dim i derfyn a doedd gôl ddim yn agos i fod cyn bwysiced gyda thad a chariad ar lawr yn brwydro am ei fywyd. Derbyniodd triniaeth yn y fan a’r lle a achubodd ei fywyd yn ôl adroddiadau. Mi fuasai hyn wedi gallu digwydd i unrhyw un, un o chwaraewyr Cymru! Diolch byth am waith arwrol meddygon! Rydym yn falch iawn o weld Eriksen yn iach rŵan. Parhaodd y gêm ychydig oriau wedyn.
Un o bethau eraill sydd yn fy ngwylltio yw negeseuon hiliaeth sydd yn cael eu hanfon ar gyfryngau cymdeithasol neu yn wyneb i wyneb. Mae pêl-droed yn gêm i bawb, does dim rheolau yn y gêm am bwy sy’n cael chwarae. Tu ôl i bob chwaraewr mae person arferol sydd gan deimladau! Ni ddylai neb orfod delio gyda negeseuon fel hyn wrth gynrychioli eu gwlad. Mae’n gêm i bawb!
Hoffwn ddiolch i holl staff Cymdeithas Pêl-droed Cymru am wneud y twrnamaint gorau o ystyried yr amgylchiadau! Mae hi wedi bod yn anhygoel gweld fy ngwlad yn chwarae yn erbyn timau gorau’r byd a ni fuasai hynny’n bosib heb eich gwaith caled. Peidiwch â digalonni Cymru fach, rydyn ni’n lwcus iawn o gael chwaraewyr sydd wedi cael y profiadau gorau posib a phwy a ŵyr? Efallai mai ni fydd yn dal y gwpan yn 2024. Rydym mewn cyfnod cyffrous yn hanes pêl-droed Cymru. Deg mlynedd yn ôl roedd Cymru yn rhif 113 yn Fifa world ranking a heddiw, mae Cymru yn rhif 17!! Mae carfan gwerth chweil gennym yng Nghymru; yr hen bennau a’r coesau ffres. Mewn mis a phythefnos, bydd ein taith i gwpan y byd yn cychwyn! Codwch eich pennau i fyny, mae dyfodol cyffrous ar y gweill. Gyda'n gilydd yn gryfach.
Begw x