Cymuned | Y Sycamorwydden gan Manon Haf
Wrth droedio ei chynefin, mae’r bardd Manon Haf yn ymgolli ym myd natur. Yn ei cherdd ddiweddaraf yn arbennig i Lysh, mae Manon yn rhannu ei sgwrs â choeden hynafol ac wedi gosod y gerdd yng nghanol ei gwaith celf.
Os edrychwch chi ar ei gwaith, daw cerdd fechan arall i’r fei. Allwch chi ddarllen y gerdd gudd?
Y Sycamorwydden
Sefyll o dan y goeden ac edrych
i fyny. Dwi’n sylwi ei breichiau, ei
breichiau bach sy’n siglo’n araf yn
y gwynt.
Rwy’n cofleidio’r goeden. Rwy’n estyn
fy mreichiau a lapio nhw o amgylch
ei gorff. Rwy’n teimlo’r goeden yn
cofleidio fi yn ôl. Beth sy’n digwydd?
Teimlaf fy nwylo’n goglais. Fel petai’r
egni o’r goeden yn cal ei drosglwyddo
fewn i fy nghorff. Tadau cu y goedwig.
Dyna beth rwy’n galw’r coed.
Cant tri deg saith mlwydd oed yw’r
sycamorwydden hon. Cant tri deg saith
mlwydd oed a chymaint mwy i fyw.
Tybed faint mwy y bydd yn tyfu.
Tybed faint o stormydd mae’r goeden
wedi goroesi. Byddai’r goeden yn
addasu i’w breichiau toredig.
Byddai’r goeden yn tyfu o amgylch
ei rwystrau.
Rwy’n meddwl ei bod yn well mynd
adref nawr. Diolch coeden fach
sycamorwydden.