Cymuned | Y Pump: Mynd Dan Groen Robyn
Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat.
Cyfres o bum nofel am bum ffrind gan pum awdur a chyd-awdur ifanc yw Y Pump sy'n dathlu amrywiaeth Cymru heddiw, gan archwilio pynciau fel hil, rhyw ac iechyd meddwl.
Cadwch lygad allan am sgyrsiau ac adolygiadau ar #LyshCymru yn ddyddiol yr wythnos yma. Dyma roi sylw i Robyn heddiw.
Dyma nofel sy'n dangos y dylai pobl traws gael eu "cynrychioli, eu derbyn a’u parchu" yn ein llenyddiaeth.
Adolygiad gan Bronwen Clatworthy.
Mae’r nofel hon yn rhoi cipolwg i mewn i fywyd o fewn byd Y Pump - Robyn, person traws yn benodol, gyda'u ffrindiau Tim, Tami, Aniq a Cat. Yn ogystal â’u hangerdd tuag at ddarganfod eu hun, mae gan y cymeriad ddawn am farddoni. Cawn weld hyn trwy meddyliau Robyn, wrth iddyn nhw gyfansoddi cynganeddu, cyn perfformio ar ddiwedd y nofel - i gyd wrth iddyn nhw ddarganfod eu gwir rhywedd.
Mae gan Robyn fywyd tebyg iawn i lawer o bobl yn eu harddegau. Yfed, ffrindiau, fflings a crushes. Ond mae eu cyfrinach yn taflu elfen llawer mwy cymhleth i mewn. Mae pob sialens mae arddegwyr yn wynebu yn anoddach i Robyn, gan fod neb yn gwybod y gwir Robyn. Dilynwn ni eu siwrnai nhw o ddod allan i'w ffrindiau, ac i ddechrau dangos eu lliwiau i'r byd. Gwelwn yn glir y gymuned gefnogol sydd i'w gael yn y byd LHDT+, wrth hefyd weld y rhagfarn a chreulondeb maent yn gallu wynebu. Er enghraifft, ar ôl i Robyn sefyll arholiad, maen nhw’n cael eu dyrnu am wisgo siôl ac am fod yn hoyw. Yna, pan mae’r bwlis yn darganfod cerdd ar eu ffôn am fod yn traws, mae’n cael eu dyrnu hyd yn oed yn fwy. Roedd yr olygfa hon yn un bwerus dros ben, ac roedd yr awduron wir yn g’neud i fi, fel darllenydd, gydymdeimlo gyda Robyn, ac i gofio pa mor greulon mae bywyd ysgol yn gallu bod. Yn anffodus, mae rhai pobl yn byw mewn ofn hyd heddiw oherwydd eu bod yn traws, ond mae’r awduron wedi rhoi hyder i ddarllenwyr, gan gyflwyno’r gymuned LHDT+ drwy stori Robyn.
Siôl sydd gan Robyn er mwyn eu cysuro. Dwi'n credu bod rhywbeth cysurus tebyg gan bawb, o flanced, tedi, llyfr da neu hyd yn oed bwyd. Darllenom am bwysigrwydd wybod beth sy'n gallu ein llonyddu, er lles ein hiechyd meddwl ni. Yn anffodus i Robyn, mae'r siôl yn beth amlwg iawn sy'n golygu eu bod yn wynebu bwlio gwarthus. Ond, beth sy’n digwydd pan maen nhw’n dechrau datblygu teimladau tuag at un o'r bwlis, a llysfrawd eu ffrind Tami, Llŷr? Beth sy’n digwydd pan mae Llŷr yn cael gwybod gan Robyn eu bod yn berson traws?
Gan fod y llyfr yn trafod ffrindiau Robyn, mae'r ffaith fod nofelau eraill o bersbectif y ffrindiau yn gyffrous iawn i ddarllenwyr. Gan eu bod yn nofelau eithaf byr, ar ôl darllen yr un yma, mae yna dal cymaint o gwestiynau am y cymeriadau. Cawn gyfle i ateb y cwestiynau trwy'r nofelau byrion arall.
Mae naws y llyfr yn un unigryw iawn. Cawn dalfyriadau fel "tbh", a Wenglish yn y nofel sy'n rhoi teimlad cyfeillgar iawn i ni'r darllenwyr, fel petai Robyn yn ffrind sy'n ein tecstio ni, i'n diweddaru ni am eu bywyd. Gan ei fod yn llyfr mor ymlaciedig, mae'n hawdd iawn ei ddarllen. Yn ogystal, mae'r clipluniau o negeseuon rhwng Y Pump yn rhoi elfen unigryw iawn i'r nofel - fel petai ein bod ni yn aelod o'r grŵp!
Fe wnes i fwynhau'r nofel - wnes i ei darllen ar ei hyd mewn un sesiwn. Mae’r nofel wedi ei hysgrifennu am gyfnod o amser byr iawn ym mywyd Robyn. Hoffwn ddarllen a dysgu mwy am fywyd Robyn a gweld sut mae eu bywyd yn parhau wrth i fwy o bobl ddod i wybod mai person traws ydyn nhw; wrth hefyd weld pa heriau a digwyddiadau maen nhw’n mynd i’w hwynebu. Rhoddodd y nofel syniad da o sut mae pobl traws yn teimlo, ac yn meddwl; ac yn codi ymwybyddiaeth bwysig i'r mater. Mae’r awduron Iestyn Tyne a Leo Drayton wedi llwyddo i roi mewnwelediad emosiynol i bwnc sydd yn cael ei weld yn tabŵ i rai. Drwy roi bywyd a llais i gymeriad cryf iawn a fyddai wedi dioddef ar ben ei hunan, maent wedi uwcholeuo’r broblem nad ydy bobl traws yn cael eu cynrychioli mewn llenyddiaeth a’r cyfryngau. Mae stori Robyn yn fan cychwyn i ddatrys hyn, i ddangos bod pobl traws yn bobl ddylai cael eu cynrychioli, eu derbyn a’u parchu.
Robyn gan Iestyn Tyne a Leon Drayton
Rhan o gyfres Y Pump, gwasg Y Lolfa
£5.99