Cymuned | Stori Aeron
Dw i'n anneuaidd. Dyma fi.
Aeron ydw i, ac rwy’n anneuaidd.
A dyna pwy ydw i, mewn brawddeg fach syml. Dyw’r daith at heddiw ddim wedi bod mor syml, er hynny, ond dwi yma, yn bodoli yn union sut ydw i’n teimlo y dylwn i fodoli.
Dwi ddim yn ferch, na chwaith yn fachgen. Dwi’n fi fy hun – heb rwystrau.
Non-binary yw'r term yn Saesneg, ac efallai bod hynny'n fwy cyfarwydd i chi.
Am flynyddoedd lawer, dw i wedi bod yn cwestiynu fy rhyw. Hyd yn oed pan ro’n i’n yr ysgol gynradd, roeddwn i’n anghyfforddus yn fy nghorff.
Chefais i ddim fy ngheni gyda’r enw Aeron, ond dyna pwy ydw i erbyn hyn. Mae wedi bod yn siwrnai o deimlo’n hollol ofnadwy wrth frwydro gyda’r holl deimladau, i deimlo rhyddhad llwyr wrth rannu pwy ydw i go iawn gyda fy ffrindiau.
Dwi’n lwcus eu bod nhw, a fy nheulu, yn hynod o gefnogol. Mae yna ambell eithriad, wrth gwrs, gyda galw enwau arnaf o dro i dro, ond y lleiafrif bychan iawn yw hynny, diolch byth.
Wrth ddechrau dweud yn agored, mae wedi dod i’r amlwg bod anwybodaeth lwyr o fewn cymdeithas am fod yn anneuaidd – gyda nifer fawr, yn enwedig o’r genhedlaeth hŷn, yn ymateb trwy ddweud nad ydyn nhw erioed wedi clywed am y term o’r blaen.
Felly beth yw ‘anneuaidd’? Wel, nid yw rhai pobl yn ffitio'n daclus i'r categorïau "dyn" neu "fenyw," neu "gwrywaidd" neu "fenywaidd". Mae gan rai pobl ryw sy'n cyfuno elfennau o fod yn ddyn neu'n fenyw, neu ryw sy'n wahanol i ddyn neu fenyw. Nid yw rhai pobl yn uniaethu ag unrhyw ryw - ac mae rhyw rhai pobl yn newid dros amser.
Yn bersonol, dwi’n teimlo’n fwy ‘wrywaidd’, a dwi’n defnyddio rhagenwau nhw/fe, neu they/he yn y Saesneg. Mae’n bwysig i nodi ei fod yn hollol normal i brofiadau pobl anneuaidd i fod yn wahanol.
Weithiau dwi’n glitsi ac yn gwisgo modrwyon a myclysau, weithiau dwi’n gwisgo’n wrywaidd. Weithiau dwi mewn croptop, weithiau mae’n ddiwrnod o wisg bagi a hwdi a chuddio fy nghorff.
Ond y peth pwysig i fi, o fod yn anneuaidd, yw fy mod i’n gallu bod yn fi fy hun – heb unrhyw eglurhad.
Ry’n ni gyd ar siwrnai trwy fywyd, a rhaid i ni gyd frwydro trwy bob her, cofleidio’r hwyl, a gwneud ein gorau i *fod* ar ein gorau pan allwn ni. Dim ots pwy na beth ydyn ni.
Sut i fod gefn? Dyma rai camau syml:
• Mae gan bawb ddwy glust i wrando – os oes rhywun yn datgelu eu bod nhw’n hoyw, yn anneuaidd neu’n traws – neu beth bynnag - byddwch yn garedig a byddwch yn gefnogol. A holwch beth yw’r rhagenwau maen nhw’n ei ffafrio, a defnyddio’r rheini. Bydd camgymeriadau ar hyd y ffordd i ddechrau, wrth gwrs, ond mae cefnogaeth a bod yn ystyriol mor, mor bwysig. Mae hyn yn cynnwys unrhyw newid enw, hefyd. Mae gen i enw newydd sy’n wahanol i’r enw ar fy nhystysgrif geni – a dyna’r enw dwi’n awyddus i bawb fy ngalw i o hyn ymlaen.
• Defnyddiwch y geirfa cywir. Mae rhestr ddefnyddiol fan hyn: https://www.stonewallcymru.org.uk/cy/cymorth-chyngor/geirfa.
• Mae creu awyrgylch saff a chroesawgar yn hollbwysig hefyd, a pheidio â beirniadu. Mae’n iawn i holi cwestiynau – a holi ymhellach os oes yna annealltwriaeth. Peidiwch â diystyru teimladau – a chofiwch, dyw profiadau pawb sy’n rhan o’r gymuned LDHT+ ddim yr un peth.
• Rhaid bod yn driw i ddymuniad, hefyd. Os oes rhywun yn troi atoch chi ac yn ymddiried ynoch, a ddim eisiau i neb arall i wybod, rhaid i chi barchu hynny. Oni bai, wrth gwrs, eu bod nhw’n teimlo’n isel iawn ac am wneud niwed i’w hunain. Bryd hynny, rhaid troi at athro, aelod o deulu neu rywun proffesiynol er mwyn iddyn nhw gael y cymorth iawn.
• Herio. Mae herio homoffobia, deuffobia a thrawsffobia yn uchel ar y rhestr. Os dewch chi ar draws y ffasiwn ymddygiad, mae’n rhaid i chi ddweud rhywbeth, a pheidio ‘sgubo’r sylwadau hyll o dan y carped. Byddwch yn gefn bob amser, a chodi llais ac addysgu eraill pan maen nhw’n greulon.
• Does neb yn berffaith, ond mae modd i ni gyd helpu’n gilydd er mwyn i bobl LHDT+ fyw bywyd mewn byd sy’n ein derbyn a’n cofleidio.
Gyda diolch, a balchder,
Aeron
Gair o Gymorth
Does dim angen i chi fod ar eich pen eich hun os wyt ydych chi’n cwestiynu pwy ydych chi. Rhannwch eich teimladau gyda pherson cyfrifol, rhieni, athrawon neu feddyg teulu.
Mae yna rai llefydd ar-lein hefyd, yn cynnwys y canlynol:
Trevor Project – www.thetrevorproject.org
Mermaids - mermaidsuk.org.uk
Meic Cymru - www.meiccymru.org
Childline - www.childline.org.uk/get-support/contacting-childline/contacting-childline-in-welsh