Cymuned | Pob dyn, pob un!
gyda Jess a Lleucu
Dyma ddwy sydd wedi gael digon. Llond bol yn llwyr. Mae hyn yn dilyn ymdriniaeth merched yn ystod yr wythnosau diwethaf, yn cynnwys holl heip #NotAllMen yn dilyn marwolaeth Sarah Everard.
I ddechrau, dyma neges gan Jess Davies i bob dyn, a phob un, ac isod, mae Lleucu Non yn dweud ei dweud.
Ddynion, yn dilyn digwyddiadau yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae menywod yn teimlo wedi eu sarhau ac maen nhw’n ddig. Ry’n ni wedi cynhyrfu, wedi blino'n lân ac wedi cael llond bol. Y cyfan ry’n ni’n ei ofyn yw cael ein trin â'r parch rydych chi'n ei roi i'ch brodyr a'r empathi ry’ch chi'n ei roi i'ch Mam.
Dwi mewn penbleth am y feirniadaeth ddwys dwi wedi ei gael wrth alw ymddygiad misogynistaidd allan, gyda dynion yn dweud wrtha i fod pob merch yn dweud celwydd am gael ei threisio, nad yw pethau'n mynd i newid felly pam trafferthu, gofyn a allwn i gwyno ychydig yn dawelach.
Mae'r agweddau hyn yn adlewyrchiad o'r diwylliant gwrywdod gwenwynig sy'n llifo'n ddwfn i fywyd bob dydd. Mae'r dynion hyn wedi pydru i'r craidd oherwydd dyna'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu o'u genedigaeth. Y peth gwaethaf y gallwch chi wneud yw bod ‘fel merch’. Man up. Nid yw bechgyn yn crio.
Mae angen i ddynion sylweddoli'r hyn yr ydym yn delio ag ef yma, mae'n ganrifoedd o agweddau cymdeithasol sy'n ystyried bod menywod yn fwy israddol, ein bod ni'n wan, yn wrthrychau.
Nid yw diwylliant misogynistaidd yn mynd i ddiflannu trwy ei droseddoli yn unig, mae angen i ni addysgu ein meibion sut i drin menywod â pharch ac nid fel y rhyw israddol. Dim ond os yw POB rhyw yn torchi llewys y gellir cyflawni cymdeithas sy'n gyfartal o ran rhywedd. Os nad ydych chi’n barod i wneud hynny, yna ry’ch chi'n rhan o'r broblem. Boi neis neu beidio.
Fe wnaeth gweld y blodau hyn yn Sgwâr y Senedd fy llorio i, a gwneud i mi grio. Roeddwn i'n teimlo egni'r menywod a oedd wedi gorwedd i lawr y noson gynt a gofyn yn ddiymadferth i ddynion ein trin fel pobl gyfartal. Mae'n 2021, alla i ddim credu ein bod yn dal i brotestio'r crap yma. 🥀🖤