Cymuned | Nadolig Pwy a Ŵyr?
gan Lleucu Non
Mae Nadolig yn amlwg yn wahanol eleni, ond tydi hynny ddim yn rheswm i beidio mwynhau fel pob Nadolig arall! Amser o’r flwyddyn i werthfawrogi’r hyn sydd gennym ni ydi’r Nadolig ac AM flwyddyn i ystyried be sydd gennym ni! Yn anffodus, mae trefniadau a gobeithion llawer ohonom wedi gorfod newid yn sgil y cyfnod clo newydd, ond mae hi’n dal yn gyfle i edrych ar y sefyllfa yng ngolau positifrwydd. Am sawl rheswm, y Nadolig ydi fy hoff adeg o’r flwyddyn a dyma 10 reswm!
1. Y cwmni
Wrth gwrs, mae hyn wedi newid yn eithriadol i nifer ohonom ni. Ond, yn ystod Nadolig heb Covid, mae bod o gwmpas fy nheulu yn rhywbeth sy’n andros o bwysig i mi, ac yn rhan hanfodol o’r Nadolig. Cwmni teulu a ffrindiau sy’n gwneud Nadolig gwerth ei gofio i mi. Wrth gwrs, rydw i’n andros o ddiolchgar am bopeth arall, ond o ran blaenoriaethau, teulu a ffrindiau sy’n dod yn gyntaf, fel gweddill y flwyddyn. Mae’r Nadolig yn gyfnod tangnefeddus iawn i dreulio â theulu, yn fy marn i.
2. Hwyliau pawb
Yn fy mhrofiad i, mae’r rhan helaeth o bobl yn tueddu i fod mewn hwyliau da pan mae Nadolig yn dod ac mae hynny yn fy rhoi i mewn hwyliau gwych! Chwarae teg, gan ystyried yr amser caled rydyn ni’n ei gael yn y byd sydd ohoni, mae pobl wedi llwyddo i barhau i fod mewn hwyliau reit bositif! Mae pawb yn fodlon rhannu, yn fodlon chwarae gemau, yn fodlon rhoi i bobl eraill ac mae’n amser bendigedig o’r flwyddyn (pun intended - Wonderful Time of the Year... na?).
3. Y gerddoriaeth
Dim fi ‘di’r math o berson i ddechrau canu O Deuwch Ffyddloniaid neu Have Yourself a Merry Little Christmas yng nghanol Tachwedd. Ond Rhagfyr 1? Ooo yndw! Am unwaith yn ystod y flwyddyn, does ‘na’r un person yn dweud ‘cau dy geg’ neu ‘nei di plîs stopio?’ a mam bach, mae’n deimlad braf gallu canu unrhyw gân Nadolig yn gwybod hynny. Mae cerddoriaeth yn bwysig iawn i mi, ac yn rhan reit hanfodol ohonof i, felly mae caneuon Nadoligaidd yn codi calon yn hawdd iawn.
4. Y Plygain
I fod yn gwbl onest, tydw i ddim yn berson crefyddol ond mae’r plygain yn rhan fawr o fy Nadolig i. Bob bore Nadolig, rydw i a Mam yn cerdded i Eglwys St. Rhedyw, Llanllyfni ac yn mynychu’r plygain. Rydw i’n canu carolau ar y ffliwt ac mae aelodau eraill o’r gymuned yn perfformio. Beth sy’n fendigedig ydi gweld aelodau o’r gymuned sydd efo cysylltiadau â gwledydd eraill ac maen nhw’n perfformio carolau mewn ieithoedd eraill ac mae gweld yr ehangiad diwylliannol yn braf ac yn codi gwên. Mae’n ffordd gynnes a heddychlon i gychwyn diwrnod Nadolig a’r gwyliau.
5. Yr addurniadau
Fel hogan fach, mae fy ngwyneb i’n goleuo wrth weld coeden, addurniadau neu oleuadau Nadolig. Mae’n debyg eu bod nhw’n gwneud popeth yn wir ac yn ryw fath o gadarnhad bod y Nadolig wedi cyrraedd. Er bod y gaeaf yn oer, mae gweld addurniadau Nadoligaidd yn gwneud i mi deimlo’n gynnes. Rwy’n meddwl ei fod hefyd yn esgus i ni oedolion ac oedolion ifainc ryddhau’r fersiynau iau ohonom ni i gyffroi am rywbeth sydd, mewn gwirionedd yn rhywbeth syml.
6. Y ffilmiau
Rydw i wrth fy modd efo ffilmiau beth bynnag, ond rydw i wir wrth fy modd efo ffilmiau Nadolig. Fi ydi’r math o berson a fyddai’n fwy na bodlon cael marathon ffilmiau Nadolig efo popcorn, leftovers cinio ‘Dolig, siocled poeth a photel fach o seidr (ar ôl yfed y llefrith i gyd) yn fy nhrowsus PJ's Nadoligaidd a siwmper ‘Dolig ar y soffa wrth ymyl tanllwyth o dân. Does gen i ddim hoff ffilm Nadolig oherwydd rydw i’n hoff iawn ohonyn nhw i gyd. Un ffilm rydw i methu disgwyl gweld ydi addasiad llyfr Matt Haig ‘A Boy Called Christmas’ flwyddyn nesaf, sy’n rhy bell i ffwrdd!
7. Y calendr adfent
Beth well nag esgus i gael siocled i frecwast heb unrhyw un yn beirniadu? Rydyn ni’n gallu dweud ‘Wel, mae hi’n Ddolig dydi?’. Yn fy marn i, mae calendr adfent i unrhyw un, dim bwys pa oedran, boed yn 6 neu 86. Cefais galendr adfent sy’n adrodd stori’r Nadolig pan roeddwn i’n ddwyflwydd, ac rydyn ni’n dal i’w hongian a’i ddefnyddio pob blwyddyn. Rydw i’n gwbl ymwybodol bod trefn y calendr yn anghywir. Y rheswm tu ôl i hynny: Cyn i mi ddod adref o’r brifysgol ar gyfer y Nadolig, roedd Mam wedi bod yn dysgu stori’r Nadolig gyda’r calendr i ddosbarth o blant bach yn yr ysgol. Roedd y plant wedi penderfynu rhoi’r baban Iesu i fyny yn y dyddiau cynnar yn hytrach na’r diwrnod olaf. Felly, pam newid hynny? Tydi hi ddim wedi bod yn flwyddyn arferol, gyffredinol yn nac’di?
8. Y bwyd
Nac ydw, dydw i ddim yn bwyta cig, a’r twrci ydi canolbwynt cinio Nadolig! Ond, rydw i’n gallu bwyta stwffin, Yorkshire puds, rhost cnau, mins peis a phwdin ‘Dolig. Fel y calendr adfent siocled, rydyn ni’n bwyta beth bynnag a phryd bynnag rydyn ni eisiau ac yn gallu dweud ‘Wel, mae hi’n Ddolig dydi?’. Ydw i fel arfer yn magu pwysau yn ystod y Nadolig? Ydw. Ydi o ots gen i? Nadi. Ac ydw i’n rhuthro i golli’r pwysau? Nadw. Agwedd wael mwy na thebyg, ond rydw i’n hapus ag o.
9. Y dillad
Dillad trwchus, patrymau Nadoligaidd, gwlân, turtlenecks, dillad sy’n rhy fawr, sanau cysgu? Ia plîs! Mae cael gwisgo dillad Nadoligaidd yn gwneud i mi ymlacio mewn chwinciad. Pam? Does gen i ddim clem. Mwy na thebyg mai defnydd y dillad sy’n gyfrifol. Rydw i wedi gweld siwmperi Nadoligaidd o rai traddodiadol i Star Wars, Marvel ac maen nhw i gyd yn cŵl! Grŵp bychan iawn o bobl sydd ddim yn malio sut maen nhw’n edrych. Ond mae’r Nadolig yn galluogi i bawb wisgo beth bynnag y fynnen nhw, dim bwys pa mor ‘rhyfedd’ ydi o i bobl eraill ac mae hynny’n bwerus ac yn rhywbeth rydw i’n ei edmygu!
10. Amser rhydd
Yn olaf, mae’r Nadolig yn rhoi cyfle i ni gamu’n ôl o fywyd prysur ac i ymlacio. Yn amlwg, mae 2020 wedi bod yn flwyddyn ddwys felly mae amser rhydd yn mynd i fod yn allweddol a hanfodol i lawer ohonom ni. Byddai llawer yn disgrifio’r amser rhydd yma fel diogi, ond rydw i’n anghytuno! Amser i chi’ch hunain ydi o ac amser i dreulio gyda’r rheiny rydych chi’n eu caru. Yn anffodus, mae hyn yn mynd i fod yn anodd i rai ohonom ni.
Felly, cymerwch amser y gwyliau yma i estyn allan i siarad â’r bobl sydd efallai ddim yn mynd i allu ymuno yn y wledd a dweud ‘rydw i’n dy garu di’, ‘rwyt ti’n ddigon’ a hyd yn oed rhywbeth mor syml â ‘Nadolig Llawen’ a ‘gofala amdanat ti dy hun’. Mae pobl yn edrych ar gyfnod y Nadolig fel amser i ystyried yr hyn sydd wedi mynd o’i le, y bobl rydyn ni wedi’i golli a’r flwyddyn ofnadwy rydyn ni wedi’i chael. Ydyn, rydyn ni i gyd wedi gwneud camgymeriadau neu mae rhywbeth wedi mynd o’i le, ond rydw i’n ei weld fel pwyntiau i wella ar gyfer y flwyddyn nesaf sy’n mynd i fod o fudd i ni yn y dyfodol pell.
Collais fy nhaid yn ystod gwyliau’r Nadolig flynyddoedd yn ôl ac mae’r golled yn dal i gael effaith arnaf i o dro i dro. Ond, rydw i’n atgoffa fy hun y byddai Taid eisiau i mi fwynhau’r gwyliau. Y Nadolig oedd ei hoff adeg o’r flwyddyn, fel finnau, felly rydw i’n cymryd y Nadolig fel cyfle i ddathlu ei fywyd ac i gofleidio’r holl atgofion.
Tymor ewyllys da ydi’r Nadolig ac rydyn ni’n gallu gwneud gwahaniaeth eleni drwy gadw’n hunain a’n teuluoedd yn saff. Felly, rydw i am gloi drwy ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd! Byddwch yn ofalus ond mwynhewch y gwyliau!
Lleucu Non x