Cymuned | Mwy Na Sgwariau Du - Taclo Hiliaeth
gyda Nia Morais
Mae dros flwyddyn ers llofruddiaeth George Floyd yn America, ond ydy cymdeithas wedi dysgu gwersi a chymryd camau er gwell? Yn ôl Nia Morais, mae angen gwneud mwy na dangos sgwariau du. Dyma flog ganddi yn arbennig i Lysh Cymru.
Dwi dal heb wylio’r fideo o lofruddiaeth George Floyd. Sai’n gwbod amdanoch chi, ond sai’n meddwl fi byth yn mynd i wylio fe - neu rannu fe ar-lein. Ni’n byw mewn oes lle mae fideo llofruddiaeth newydd yn mynd yn viral pob diwrnod, a sai moyn ychwanegu i drawma fy hun. Sai moyn risgio’r siawns y bydd rhywun arall yn gweld y fideo ar ei timeline a gorfod delio gyda thrawma eu hunain. Not to mention y ffaith gafodd dyn diniwed ei ladd mewn ffordd mor erchyll - dydy George Floyd ddim yn haeddu cael y fideo ohono fe yn ei eiliadau olaf yn mynd yn viral. Doedd e ddim yn haeddu cael ei aberthu ar gyfer yr achos gwrth-hiliaeth, ond mae llawer o bobl yn credu hynny. Roedd e’n ddiniwed - roedd e’n mynd i’r siop. Ond hyd yn oed os oedd e yn euog o ryw drosedd, doedd e byth yn mynd i haeddu marw drosto fe.
Fel person du hil gymysg, roedd hi’n dda gweld cymaint o gefnogaeth ar gyfryngau cymdeithasol am y gymuned du yn sgil llofruddiaeth George Floyd, ond wrth i amser pasio, sylweddolais nad oedd llawer o bobl oedd heb brofi hiliaeth yn siŵr sut i symud ymlaen o ran gwrth-hiliaeth. Roedd lot o gefnogaeth arwynebol, heb lot o newid - fel roedd pobl yn meddwl, ‘dyna fe, dwi di postio sgwâr du, dyna ddigon o hiliaeth am un diwrnod’.
Falle doedd pobl ddim moyn gwneud camgymeriad, neu achosi mwy o broblemau, ond roedd bendant angen gwneud mwy. Roedd gan y trafodaethau ar y cyfryngau cymdeithasol yr un naws ag yn 2014, ar ôl i Michael Brown gael ei lofruddio yn Ferguson, Missouri. Roedd llawer o drafod am sut i wneud achos George Floyd yr achos olaf o drais hiliol gan yr heddlu, ond roedd pobl yn dweud ‘run peth am Michael Brown yn 2014.
Ar lefel systemig, be sydd rili wedi newid ers 2014? Dim byd llawer, yn fy marn i. Beth felly mae hyn yn dweud wrthon ni am stopio hiliaeth? Wel, mae angen gwneud mwy na just postio sgwâr du. Mae angen mwy na body cams, mwy na sensitivity training. Mae angen i’r system newid yn hollol, from the ground up. Mae angen system newydd.
Yn amlwg, nid fi yw’r expert. Mae llawer o bobl mas ‘na sydd gyda syniadau gwell am sut mae mynd ati i newid y system dreisiol yma. Dwi’n ddiolchgar am gael y cyfle i sgwennu am y pwnc hwn, ond wrth gwrs mae angen gwrando ar bawb sy’n profi hiliaeth er mwyn cael syniad ar sut mae creu’r newid sydd angen. Y peth da yw bod grwpiau gwrth-hiliaeth fel BLM Cymru yn dechrau ennill y sylw maen nhw’n haeddu am y gwaith pwysig maen nhw’n neud. Ond bydd newid yn hynod o anodd heb gael pawb on board - hynny yw, hyd yn oed y bobl sydd byth yn mynd i brofi hiliaeth.
A dwi ddim jyst yn meddwl yn America- roedd marwolaeth Christopher Kapessa yn 2019, a Mohamud Hassan a Moyied Bashir yn gynnar y flwyddyn yma wedi profi (i’r rhai oedd angen y prawf) fod 'na broblem fawr gyda hiliaeth yng Nghymru hefyd. Yn fy marn i, y gwahaniaeth mawr rhwng hiliaeth ym Mhrydain a hiliaeth yn yr UDA yw bod hiliaeth yn y DU wedi’i staenio gan y cysyniad o gwrteisi. Mae’n hiliaeth slei, niweidiol, sy’n gallu neud i ti deimlo fel bo ti’n rong am gael dy effeithio ganddo fe. Ond mae o yna.
Gan ein bod ni’n byw mewn cymdeithas lle mae popeth yn weledol, a phopeth yn berfformiad, dwi’n credu fod hi’n bwysig ein bod ni’n rhoi’r pwyslais ar weithredoedd yn lle cefnogaeth perfformiadol. Dim mwy o sgwariau du, dim mwy photoshoots yng nghanol protestiadau. Beth sydd angen yw i ni roi ein hegni i mewn i’r mudiad, mewn ffordd sy’n briodol i ni. Dydy pawb ddim yn gallu gorymdeithio, ond mae hefyd angen rhoi arian i bobl mewn angen, arwyddo deisebau, a phethau felly. Yn ogystal i drafodaethau â’r IOPC a lobïo i newid deddfau, mae hefyd angen gwrthsefyll hiliaeth bob dydd.
Hynny yw, os mae rhywbeth hiliol yn digwydd o’n blaenau ni, mae angen gwneud yn glir fod e’n dreisiol ac yn anghywir. Mae angen pwyntio allan sylwadau niweidiol ac ymyrryd os mae rhywun yn cael eu cam-drin mewn ffordd hiliol. Mae angen bod yn barod i ffilmio os mae’r sefyllfa ar fin droi’n dreisiol, er mwyn gwneud yn siŵr bod neb yn cael getaway gyda llofruddiaeth eto.
Mae hiliaeth yn cysylltu i bob cymuned. Mae’n mynd llaw yn llaw gyda homoffobia a trawsffobia, ac mae’n gallu effeithio ar bopeth, o feddygaeth i ddeddfau i addysg. Be sy’n bwysig yw gwrando ar brofiadau gwahanol, a gofyn wedyn am farnau’r bobl sy’n profi hiliaeth bob dydd, er mwyn darganfod y ffordd orau i’w helpu nhw.
Dwi’n ymwybodol fy mod yn profi hiliaeth mewn ffordd wahanol i berson Mwslim, er enghraifft, neu berson croen tywyll, gan fy mod yn hil-gymysg. Dwi hefyd yn ymwybodol fod pobl du anabl yn profi hiliaeth mewn ffyrdd mwyaf erchyll eto. Felly, dydy fy mhrofiadau i ddim yn ‘one size fits all’- nid fy marn i am y ffordd orau i fod yn wrth-hiliol yw’r farn olaf. Mae miloedd o bobl mas yna mae angen i ni wrando arnyn nhw - a’r cam mwyaf pwysig dan ni’n gallu cymryd nawr yw gwneud yn siŵr ein bod ni’n gwrando arnynt. Ond ydy Cymru yn barod i weld y gwir?