top of page

Cymuned | Gweithredoedd Nid Geiriau: Pleidlais i Bobl Ifanc gan Lleucu Non

Cymuned | Gweithredoedd Nid Geiriau: Pleidlais i Bobl Ifanc gan Lleucu Non

Rydych chi mwy na thebyg yn ymwybodol nad oes gennyn ni’r hawl i bleidleisio tan rydyn ni’n 18 oed yn y Deyrnas Unedig. Mae etholiad cyffredinol yn agosáu a gan mai ym mis Ebrill mae fy mhen-blwydd, nid oes gen i’r hawl i bleidleisio er bod ffrindiau gennyf yn yr un flwyddyn ysgol yn cael pleidleisio oherwydd bod eu pen-blwydd wedi bod ers mis Medi. Ond, mae rhai sydd gan lai o ddealltwriaeth mewn gwleidyddiaeth, rydw i’n egluro’r sefyllfa ac mae’n amlwg felly nad oes bwys gan wleidyddion os oes gan bobl ddealltwriaeth, oedran ydi’r amod annheg, yn anffodus.

Cefndir
Ydych chi’n gwybod pryd gafodd merched yr hawl i bleidleisio? 1918 ac 1928. Roedd y Swffragetiaid wedi brwydro am yr hawl i bleidleisio ers 1872. Yn 1906, penderfynodd y Swffragetiaid i fod yn fwy treisgar, i bwysleisio y dylen nhw gael yr hawl i bleidleisio drwy dorri ffenestri a chynnau blychau post ar dân. O’r diwedd, cafodd merched dros 30 oed yr hawl i bleidleisio yn 1918. Ni chafodd deddf hawliau pleidleisio cyfartal ei gyhoeddi tan 1928, lle’r oedd pawb dros 21 oed yn cael pleidleisio.

Cyn yr Ail Ryfel Byd, roedd y gyfraith mewn rhan fwyaf o wledydd yn datgan mai 21 oed oedd yr oedran gymwys i bobl gael pleidleisio. Ond, ar ôl y Rhyfel, dechreuodd nifer o wledydd ostwng yr oedran bleidleisio. Yn 1969, gostyngodd y Deyrnas Unedig yr oedran bleidleisio i ddeunaw oed.

Y Ddadl Fawr
Wrth gwrs, pan roedd yr oedran bleidleisio’n cael ei ostwng, roedd goblygiadau yn y ddadl. Cafodd y syniad o ostyngiad pellach i 16 oed ei ystyried o ddifrif ar y 15fed o Ragfyr, 1999. Dyma’r tro cyntaf i ostyngiad yr oedran pleidleisio ei roi ymlaen am bleidlais yn Nhŷ’r Cyffredin. Collodd gyda 434 pleidlais yn erbyn y gostyngiad a dim ond 36 o blaid y gostyngiad oedran. Ers mis Mai 2019, mae’r pleidiau i gyd, ac eithrio’r Ceidwadwyr ac UKIP o blaid gostwng yr oedran bleidleisio i 16 oed.

YR Alban
Ym mis Medi 2014, cafodd refferendwm ei gynnal yn yr Alban am annibyniaeth. Yn y refferendwm, cafodd bobl ifanc 16 ac 17 oed yr hawl i bleidleisio. Allan o’r 3.6 miliwn o’r Albanwyr a bleidleisiodd, pleidleisiodd dros 100,000 o bobl ifanc, gyda 71% o’r bobl ifanc yna wedi pleidleisio o blaid annibyniaeth. Nawr, mae gan bobl ifanc yr Alban yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau lleol os ydyn nhw’n 16 ac 17 oed. Ond, ni chafodd y bobl ifanc yma’r hawl i bleidleisio yn refferendwm Brexit.

Cymru
Mae newyddion gwych wedi cyrraedd pobl ifanc Cymru ar y 28ain o Dachwedd, wythnos diwetha’. Mae gan bobl ifanc 16 ac 17 oed yr hawl i bleidleisio yng Nghymru! Ond, mae hyn ond ar gyfer etholiadau’r Cynulliad. Bydd yr etholiadau lleol nesaf yn 2022, a dyna pryd y cawn ni gofrestru i bleidleisio’n 16 ac 17 oed. Yn debyg iawn i’r Alban, mae’r drefn yn mynd i gadw at etholiadau Cymru ac nid y Deyrnas Unedig.

Y Gyfraith
Yn ôl cyfraith y Deyrnas Unedig, mae gan bobl ifanc 16 oed yr hawl i briodi, cael rhyw a chael plant. Erbyn i ni droi’n 17 oed, mae gennyn ni’r hawl i yrru car. Os felly, mae’n gwneud synnwyr i ni gael yr hawl i bleidleisio. Mae penderfynu priodi a chael plant yn benderfyniad anferthol sy’n mynd i gael effaith ar eich bywyd am byth. Ar ben hynny, os ydych chi’n cael plentyn cyn i chi gael pleidleisio, mae’n debygol iawn y buasech chi eisiau pleidleisio er mwyn dyfodol eich plentyn, yn dydi?! Wrth gwrs, mae gyrru car yn gyfrifoldeb anferthol pan mae gennych chi bobl yn y car gyda chi; siawns bod rhoi croes mewn bocs ar ddarn o bapur yn gymaint o gyfrifoldeb â gorfod bod yn gyfrifol am sawl person mewn car?
Rydyn ni’n haeddu cael yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau ac unrhyw refferendwm tu allan i Gymru tra rydyn ni’n rhan o’r Deyrnas Unedig! Mae’r cenedlaethau hŷn yn pleidleisio ar faterion sydd ddim yn mynd i’w heffeithio nhw, ond sy’n mynd i’n heffeithio ni a’r cenedlaethau nesaf! NI sy’n ganol newid y byd felly rydyn NI’N haeddu’r hawl i bleidleisio fel pawb arall! Peidiwch â gwrando ar y gwleidyddion neu unrhyw un sy’n dweud “nad ydi pobl ifanc yn ddigon aeddfed”! Yn dilyn gwleidyddiaeth y tair blynedd diwethaf, nid NI sydd wedi bod yn anaeddfed ac anhrefnus! Buasai cael gostwng yr oedran bleidleisio i 16 yn fuddiol i ni AC i’r gymdeithas. Buasai’n newid yr agwedd sydd gan y gymdeithas sy’n datgan bod pobl ifanc yn rhy anaeddfed i bleidleisio. Gan ystyried y digwyddiadau rhyngwladol rydyn ni wedi arwain yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi profi ein bod ni’n aeddfed. Felly, mae’r amser wedi dod i newid yr oedran bleidleisio eto i bawb ar draws y Deyrnas Unedig!

Gwledydd sy’n caniatáu i bobl ifanc 16 oed bleidleisio:
1. Yr Ariannin
2. Awstria
3. Brazil
4. Ciwba
5. Ecwador
6. Malta
7. Nicaragua
8. Ynys Manaw

Cymuned | Gweithredoedd Nid Geiriau: Pleidlais i Bobl Ifanc gan Lleucu Non
bottom of page