Cymuned | Galar, Colled ac Abbi
Dyma stori fer fuddugol Hanna-Non Cordingley, a gipiodd y Gadair iddi yn Eisteddfod Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe.
* Rhybudd cynnwys: Mae’r stori yma’n trafod hunanladdiad.
Hunanladdiad yw un o’r pethau mwyaf hunanol gall rywun wneud. Na, dydych chi ddim fod meddwl hynny, heb sôn am ei ynganu’n uchel. Ond dyna ni, dyna’r teimlad sy’n llenwi eich ymennydd niwlog. Ond, hefyd rydych chi’n gofyn y cwestiwn “gallwn i fod wedi gwneud rhywbeth?” neu, “a ddylwn i fod wedi sylwi?” Dyna’r meddyliau sy’n llenwi eich meddwl. Bob munud. Bob awr. Bob dydd. Mae'n anodd esbonio, ond mae’r meddyliau yn gwneud i chi deimlo fel eich bod chi’n boddi neu’n tagu ac felly mae canolbwyntio ar unrhyw beth arall bron yn amhosib. Does neb yn gwybod beth i’w ddweud neu sut i helpu oherwydd dydych chi ddim yn gwybod eich hun. Does gennych chi ddim atebion. Rydych chi’n cymryd pob eiliad ar y tro ac yn osgoi’r cwestiwn. “ti’n iawn?” oherwydd does dim ffordd o ateb heblaw am lefen neu dagu ar eich geiriau.
Does dim byd yn gallu eich paratoi ar gyfer newyddion fel hyn. Rydych chi'n clywed amdano yn digwydd a rydych chi’n clywed pobl yn siarad amdano a sut i gadw golwg am yr arwyddion ond, does dim yn gallu eich paratoi chi am hyn yn digwydd i rywun sy’n agos atoch chi. “Mae’n digwydd i bobl eraill,” dyna mae’r mwyafrif yn ei ddweud ac yn ei feddwl. A dyna o’n i’n meddwl, cyn y diwrnod yna.
Y diwrnod newidiodd popeth oedd diwrnod anoddaf fy mywyd hyd yn hyn. Rydych chi’n clywed pobl yn dweud hynny a ‘falle’n wfftio. Ond llaw ar fy nghalon, dwi’n golygu’r geiriau yna. Aeth popeth yn dawel. Do’n ni ddim yn gallu meddwl. Ffocysu oedd y peth olaf ar fy meddwl. Dwi'n siŵr anghofiais i sut i anadlu.
“Ges i decst yn hwyr neithwr... neu ‘falle’n gynnar bore ‘ma...” Mam a’i geiriau’n baglu o’i cheg, fel dominos yn bwrw’i gilydd. Mam a’i hwyneb fel y galchen. Mam a’i breichiau amdanon ni. “Ma’ Abbi yn y ‘sbyty... dydy pethau ddim yn edrych yn dda.” Doedd dim angen dweud mwy. “Y’n ni'n mynd i’w gweld hi bore ‘ma...” Yna ddaeth y cwestiwn, “Y’ch chi’ch dau’n iawn i fynd i'r ysgol neu y’ch chi am ddod hefyd?” Dwi ddim yn credu y gwnes i wir feddwl am y peth cyn ateb ond gwnes i'r penderfyniad cywir, dwi’n credu.
“Byddwn ni’n iawn, mam.” Felly es i, i'r ysgol.
Mae'n hawdd dweud taw dyna’r geiriau gwaethaf glywais i erioed. Efallai eich bod yn rhyfeddu fy nghlywed i’n dweud hynny. Efallai eich bod yn meddwl y byddai’r geiriau a ddilynodd deuddydd yn ddiweddarach yn waeth, ond rheini oedd y geiriau ddisgwylion ni, er bod peth gobaith am ychydig oriau na fyddai byth angen i mi glywed y geiriau yna. Ond weithiau mae angen disgwyl yr annisgwyl. O'n i'n disgwyl iddo fod yn ddiwrnod arferol ond ni allai hynny fod yn bellach o’r gwirionedd.
Anadlu mewn ac allan, anadlu mewn ac allan. ‘Na’i gyd wnes i am y pum munud ar ôl clywed y newyddion bod fy modryb yn yr ysbyty ar ôl ceisio lladd ei hun.
“Un peth ar y tro, parhau fel does dim newid, mynychu’r ysgol a gwersi. Does dim angen i unrhyw un wybod.” Ailadroddais fy mantra i fi fy hun. Wrth wisgo. Wrth gael brecwast. Wrth deithio yn y car i’r ysgol gyda fy mhen yn llawn niwl trwchus. Wrth weld fy ffrindiau. “Does dim angen i unrhyw un wybod.”
Gwibiodd y meddyliau o amgylch fy mhen fel pêl sboncen ar gwrt, a dyna’r unig beth gallwn feddwl amdano heb deimlo fel o’n i ar fin suddo. O’n i’n gwch bach ar gefnfor eang yn aros i’r don sgubo drosta i. Gweithiodd y cynllun am lai nag awr, nes o’n i’n eistedd mewn gwers Gerddoriaeth a dim ond atgofion oedd yn rhedeg trwy fy meddwl fel rhyw fath o freuddwyd. O’n i’n cofio rhai atgofion yn glir ac yn gallu adrodd yr hyn ddigwyddai cynt ac ar eu hôl, ond gyda rhai eraill o’n i’n teimlo fel mai edrych o’r tu allan i mewn ar fywyd person arall o’n i. Pethau rhyfedd ydy atgofion. Er taw eich meddwl chi sy’n rheoli, a chi oedd yno yn y lle cyntaf, weithiau rydych chi’n cofio darnau yn unig neu yn eu cofio mewn ffordd wahanol i'r ffordd rydych chi’n cofio’r digwyddiad pan mae ‘da chi’r amser i eistedd a gwir feddwl am y digwyddiad a’r sefyllfa. Oeddech chi’n gwybod bod rhai pobl yn dweud nad cofio’r digwyddiad ydyn ni mewn atgof, ond cofio’r tro diwethaf i ni gael yr atgof hwnnw, a dyna sut mae pethau’n newid dros amser... fel ail greu jig-so. Rydych chi’n estyn y bocs i ail greu’r llun, ond mae un darn ar goll felly rydych chi’n gweld y llun hebddo, neu dydy un darn ddim cweit yn mynd i’w le yn iawn ac felly rydych chi’n ei wthio gan rwygo un gornel fechan ac wedyn dydy’r llun ddim yn union fel ag yr oedd e, mae rhyw fanylyn bychan ar goll, a ddaw e byth yn ôl yn iawn...
Ta waeth, atgofion. Atgofion. Mae rhai yn sefyll allan wrth feddwl am y person golloch chi ac mae rhai ry’ch chi’n eu cofio oherwydd pethau gwahanol, ‘falle rhyw air neu raglen deledu neu ‘falle nad oes unrhyw gysylltiad ond maen nhw’n cael yr un effaith arnoch ta beth. Weithiau maen nhw’n gwneud i chi deimlo’n hapus, fel rhyw fath o don gynnes yn llifo trwy’r corff. Ond... weithiau y gwrthwyneb yn llwyr ydy’r effaith arnoch chi ac mae’r don yna am eiliad ac yna mae’n taro i mewn i'r creigiau ar lan y môr ac yn eich dryllio. Ond sut bynnag mae’n gweithio, yr atgofion yw’r hyn sy’n eich galluogi chi i gofio’r person fu farw.
Fy modryb oedd un o’r bobl yna oedd yn credu unrhyw beth a phopeth. Doedd dim ots a oedd yn gwneud synnwyr neu pe bai’n hollol amlwg mai nonsens llwyr oedd e, roedd siawns weddol y byddai hi’n credu pob gair neu o leia’ yn ymchwilio i'r mater!
Daw llawer o enghreifftiau o hyn i'r meddwl. Un o’r goreuon ydy’r tro dwedais wrthi bod rhaid i ffermwyr mewn gwledydd twym fwydo ia i’r ieir i sicrhau na fyddai’r wyau yn dod allan wedi berwi’n galed! Do, fe gredodd hi fi! Hefyd dywedais wrthi nad yw mozarella wedi’i greu o laeth yn yr un ffordd ag y mae Cheddar gan ei fod wedi’i greu o geilliau tarw! O’n ni’n meddwl taw hwn oedd y peth mwyaf doniol erioed oherwydd roedd fy modryb yn llysieuwraig! O ganlyniad i fy jôc i aeth hi ddim yn agos at mozzarella am gyfnod go hir, er bod mam sydd hefyd yn llysieuwr dal i’w fwyta. Parhaodd hyn tan iddi ddarllen y paced ac ymchwilio i sut mae creu mozerella ac yna dechreuodd hi ei fwyta eto - ond dim ond ar ôl rhoi llond pen i fi wrth gwrs! Roedd hi’n meddwl y cafodd gwartheg Friesian yr enw hwnnw am fod y llaeth sy’n dod ohonyn nhw yn oer. Yn ogystal â chredu unrhyw beth, byddai hi yn dweud pethau gwahanol a byddai neb yn gallu deall pam ddywedodd hi hynny, neu’r rheswm y dywedodd hi’r pethau hynny yn sydyn, ond roedd pawb yn cael oriau o hwyl yn ei chwmni.
Er ei natur hygoelus, roedd hi’n alluog iawn. Aeth hi ymlaen i astudio Cyfrifeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r cyfuniad yna o gredu popeth ac yna astudio rhywbeth mor ddu a gwyn yn rhoi gwên ar fy wyneb.
Ond dyna beth oedd yn ei gwneud hi’n unigryw.
O Abbi. Mae’n teimlo mor anghywir i ddefnyddio ‘roedd’ amdana’ ti.
Er nad oedd hi’n gweld hynny ei hun, roedd hi’n hynod o dalentog. Chwaraeai’r ffidil yn anhygoel ac enillodd lawer o wobrau. Cerddor naturiol ac wrth reddf oedd Abbi. Recordiad ohoni hi oedd y gân a chwaraewyd ar ddechrau ei hangladd felly gallwch ddychmygu fel y dechreuodd y dagrau lifo yn sydyn.
Nid fel cerddor oedd penllanw ei thalentau creadigol fodd bynnag. Roedd hi’n hynod greadigol wrth baentio a chreu gemwaith. Trïodd ei gorau wrth wneud popeth, er ‘falle roddodd hi’r ffidil yn y to yn fuan ambell dro. Na, nid yn llythrennol, glynodd yn ffyddlon i’w cherddoriaeth. Bu sawl tro pan aeth hi’n ôl i wneud y peth dd’wedodd hi na fedrai hi ei wneud ac felly fyddai hi byth yn rhoi'r ffidil yn y to yn gyfan gwbl- does dim amheuaeth byddai hi’n pwdu ond byddai’n newid ei meddwl yn eithaf cyflym. Oedd, roedd hi’n eithaf anwadal.
O Abbi. Mae’n teimlo mor anghywir i ddefnyddio ‘roedd’ amdanat ti.
Yn y dyddiau nesaf doedd dim newid. Dim newid yn y ffordd roedd pawb yn teimlo. Dim newid yn ei chyflwr. Dim newid. O ganlyniad aeth y dyddiau yn araf ac o un i'r llall heb lawer o newid. Pawb yn mynd i'r ysbyty. Gwaith ysgol yn dal i fod yn anodd. Cysgu yn anodd. Bod yn effro yn anodd. O'n i'n dal i fethu credu’r peth ond yn araf bach roedd popeth yn dechrau dod at ei gilydd, symud ymlaen. Ac yna daeth y newyddion o’n i’n barod amdano, yn gwybod ei fod ar y ffordd, ac yn ei ddisgwyl. Roedd o fel byw rhyw fath o sgript... doeddwn i ddim yn credu’r peth ond o’n i’n gwybod ei fod wedi digwydd ac roedd o’n wir. Roedd Abbi wedi mynd.
Nid ei cholli hi oedd y peth gwaethaf, o’n i wedi paratoi fy hun ar gyfer hynny. Na, y peth gwaethaf oedd meddwl na fyddwn i byth yn gallu ei gweld hi eto neu gofio’r holl bethau yma. Ond roeddwn i'n anghywir ynglŷn â’r cofio. Heb atgofion does dim ffordd bydd y galar yn diflannu neu’n lleihau hyd yn oed dros gyfnod hir o amser. Atgofion yw’r peth pwysicaf gall unrhyw un fod yn berchen arnyn nhw. Maen nhw’n ddarnau bychain o aur yng nghist trysor y cof. Hebddyn nhw bydd popeth yn cael ei anghofio a hebddyn nhw byth popeth yn cael ei golli ar ôl i rywun farw.
Hunanladdiad yw un o’r pethau mwyaf hunanol gall rywun wneud. Ond dydy hynny ddim yn gwneud y sefyllfa yn anos neu’n haws i allu delio â hi. Mae dal angen cymorth ffrindiau, cymorth athrawon neu gymorth unrhyw un oedd yn fodlon fod yna a gwrando. Mae ffrindiau, neu gymorth ffrindiau, fel rhyw fath o bŵer ry’ch chi’n ei weld unwaith ry’ch chi ei angen o ac o hynny ymlaen ry’ch chi’n gwerthfawrogi’r pŵer hudol yna llawer fwy na’r hyn wnaethoch chi o’r blaen. Unwaith ry’ch chi’n sylweddoli pwy sydd yna i chi mewn cyfnodau anodd mae’ch persbectif ar bopeth yn newid. Ry’ch chi'n agosáu at rai pobl neu ‘falle greu ffrindiau newydd. Ond ry’ch chi’n colli rhai ffrindiau oherwydd dydyn nhw ddim yn sylweddoli pa mor ddifrifol mae’r sefyllfa yn effeithio arnoch chi ac felly maen nhw’n disgwyl i chi ymddwyn fel byddech chi fel arfer er taw dyna beth sydd bellaf o’ch meddwl.
Mae’n parhau i fod yn anodd weithiau ond dwi’n meddwl am y pethau da ddigwyddodd a chofio’r ffaith er ei bod hi wedi marw a na fedra’ i ei gweld hi nawr, mae hi dal yn fyw yn fy atgofion a straeon, a rydyn ni dal yn perthyn.
Hunanladdiad yw un o’r pethau mwyaf hunanol gall rywun ei wneud.