top of page

Cymuned | Cymru Rydd...a bach o barch plîs!

Cymuned | Cymru Rydd...a bach o barch plîs!

Parchu'n gilydd - dyna sy'n rhaid i bawb wneud, yn ôl Nel Angharad. Mae hi'n credu'n gryf mewn Cymru Rydd, ac wedi bod i sawl rali a gorymdaith, yn cynnwys yr un yn Glasgow ddechrau fis diwethaf. Dyma flog ganddi yn arbennig i #LyshCymru...

Helo fi di Nel, dwi’n 13 oed ac yn dod o ochre'r Bala. Yn ddiweddar ges i agoriad llygad pan welais i lun ar Instagram oedd yn dweud “If you don’t fight, at least have the decency to respect those who do” - a waw, wnaeth o wneud i fi feddwl.

Dwi fy hun yn gefnogwr brwd o Yes Cymru, grŵp o bobol sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru a dwi'n mynd i lawer o ralïau a gorymdeithiau annibyniaeth. Nid yn unig rhai Cymru ond yn ddiweddar es i a ‘Nhad i Rali annibyniaeth yn Glasgow ac roedd yn brofiad anhygoel o weld miloedd o bobol yn cydweithio i gyrraedd yr un gôl. Roedd y Cymry wedi mynd i fyny i’r Alban i gefnogi eu hymgyrch dros annibyniaeth.

Roedd yr awyrgylch yn anhygoel ac roedd rhwng 80,000 a 200,000 o bobol yno'n cefnogi ei gilydd, pob un â chymaint o falchder yn eu calonnau. Roeddwn i'n arogli'r balchder yn yr aer wrth glywed y bobol yn chwifio eu baneri ac yn gweiddi enw eu gwlad.

Doedd yr awyrgylch ddim yn andros o wahanol i orymdaith Yes Cymru Merthyr Tudful, ond i fi oedd o’n rhyfedd mynd i Glasgow ar ôl gweld tomen o’r baneri cyfarwydd coch gweld miloedd o faneri glas! Oedd Merthyr Tudful bron cystal â Glasgow!

Roedd yr areithiau ym Merthyr yn gymaint o agoriad llygad pan roeddent yn siarad am beth fyddai Cymru rydd yn ei olygu i ni, roedden nhw'n dweud y gallen ni ddeud wrth ein plant yn y dyfodol gyda balchder ein bod ni wedi cael Annibyniaeth i Gymru. Yn aml ryden ni'n clywed am bobl sy'n dweud, "Wales, isn’t that in England?" Byddwn yn gallu deud ein bod ni mewn gwlad rydd gydag iaith a diwylliant ein hunain.

Ond dydi pawb ddim yn cytuno gydag annibyniaeth, a dwi'n gwybod bod rhaid parchu eu barn. Ond dim pawb sy’n gwybod i barchu barn bobol eraill a beth maen nhw'n ei gredu ynddo. Dwi fy hun a fy ffrindiau eraill o’r ysgol sy’n cefnogi annibyniaeth wedi sylwi ar hyn. Dwi'n dallt os ydi pobol yn anghytuno efo annibyniaeth, ond mae angen i rai pobl sylweddoli bod annibyniaeth yn golygu llawer i rai ac mae angen iddyn nhw sylweddoli bod angen parchu barn pobol eraill.

Grêt ‘di Greta

Mae hyn yn berthnasol i lawer o achosion eraill hefyd fel cynhesu byd eang, ac achosion fel pobl yn cael eu trin yn wahanol oherwydd lliw eu croen, eu rhyw neu eu maint.

Mae yna ferch 17 oed o'r enw Greta Thunberg o Sweden wnaeth ysbrydoli miliynau o bobol i godi llais am gynhesu byd eang. Dechreuodd hi godi ymwybyddiaeth wrth aberthu ei haddysg a chychwyn protestiadau school climate strike lle'r oedd miloedd o ddisgyblion yn aberthu eu haddysg am ddiwrnod i brofi pa mor ddifrifol yw’r achos yma.

Dwi wedi gweld ar wefannau cymdeithasol bod llawer o bobol yn anghytuno efo'r ffordd mae hi'n helpu'r achos, ac yn dweud pethau fel "talking won’t save the world". Mae'r dyfyniad "If you don’t fight at least have the decency to respect those who do" yn addas iawn i’r pwynt yma. Er mai dyna yw eu barn nhw, rhaid parchu, oherwydd ei bod hi wedi codi llais a gwneud rhywbeth am yr achos yn lle gadael y byd i doddi a pheidio siarad amdano.

Dwi ddim yn meddwl ei fod yn deg ar Greta ei bod wedi gorfod aberthu ei haddysg a bod pobl yn dal i gwyno nad yw hi'n ‘gwneud digon o wahaniaeth’ ar ôl iddi siarad o flaen arweinyddion gwledydd yn Efrog Newydd, a hwylio ar hyd un o foroedd mwy a'r byd i leihau ei hôl troed carbon. Ond dwi dal yn gwybod i barchu barn y bobl yno oherwydd dwi’n siŵr bod ganddyn nhw eu rhesymau.

Cofiwch barchu barn pobol eraill hyd yn oed os nad ydych yn cytuno gyda nhw eich hunain , edrychwch ar ddwy ochor y ddadl cyn rhoi eich barn ar unrhyw bwnc.

Diolch am ddarllen,
Nel x

Cymuned | Cymru Rydd...a bach o barch plîs!
bottom of page