top of page

Cymuned | Coronafeirws: Covid-19 yn Codi Ofn

Cymuned | Coronafeirws: Covid-19 yn Codi Ofn

gan Lleucu Non

Wna i ddim dweud c’lwydda, does gen i ddim syniad beth i feddwl o’r coronafeirws, mae’n chwalfa ar y meddwl. Mae rhai pobl wedi dweud pob math o bethau ac mi rydyn ni’n ofni’r anhysbys oherwydd y feirws newydd. Does gan neb syniad beth sy’n digwydd ac mae pobl wedi mynd i banig. Yn anffodus, rydyn ni’n byw mewn byd lle mae pres a chyfoeth yn bwysicach nag unrhyw beth arall yn aml iawn, a hynny sydd wedi achosi i’r feirws yma ledaenu’n gyflymach na beth roedd pawb yn ei obeithio. Rydw i’n dioddef o ansicrwydd mawr, fel pawb arall ac mae’r ffaith nad oes gan ein harweinwyr ni fawr o syniad beth i’w wneud yn codi ofn arnaf i.

Digon yw digon – stoc-brynu
Mae pobl wedi bod yn stoc-brynu papur toiledau, pasta, blawd, reis, sebon a phob mathau o bethau eraill. Yn bersonol, mae hyn i gyd yn hurt ac mae llawer o bobl yn ymddwyn yn blentynnaidd ac yn hunanol. Ond beth am famau â phlant ifainc a’r henoed? Mae’r bobl yma’n fwy bregus ac angen y pethau hanfodol yn fwy na theuluoedd bach heb unrhyw anghenion. Yn bersonol, mae angen i bawb brynu beth sy’n angenrheidiol iddyn nhw ac nid stoc-brynu digon o fwyd am fis, pan maen nhw’n ond angen aros adref am bythefnos. Nid yw gwneuthurwyr yn gweld hyn yn deg, mae hyd yn oed cwmni papur toiled wedi dweud eu bod nhw eisiau i bawb aros yn dawel a bod digonedd o bapur toiled yn cael eu gwneud yn ddyddiol (2 filiwn rôl bob dydd). Cychwyn yr wythnos diwethaf, dywedodd hyd yn oed Tesco eu bod yn rhoi polisi newydd allan mai ond 3 o bopeth mae pawb yn cael prynu e.e. 3 paced o afalau’n unig neu 3 paced o bapur toiled. Camau fel ‘ma sydd angen eu cymryd i wneud i bobl callio.

(Dim) Croeso i Gymru
Un peth sy’n fy ngwylltio i ydi’r ffaith bod Saeson wedi dod i’w tai haf i hunan-ynysu. Am ffordd o ledaenu’r feirws. Maen nhw’n dod yma i fyw, i brynu bwyd pan mae bwyd yn ddigon prin i rai ohonom ni’n barod oherwydd bod pobl yn stoc-brynu ac yn mynnu defnyddio ein gwasanaethau iechyd pan mae Cymry Cymraeg eu hangen nhw. Rydw i wedi clywed sawl person yn dweud eu bod wedi clywed Saeson yn dweud efallai bod symptomau ganddyn nhw a'u bod wedi dod i Gymru i hunan-ynysu. Ewch yn nôl adra! Mae’r GIG yn dioddef yn barod gyda chleifion Cymraeg, heb eich cael chi’n lledaenu’r feirws! Mae’n saff i ddweud nad ydw i’n hapus efo’r Saeson hunanol yma! Tydi eu hagwedd nhw ddim yn synnu ond tydi hynny ddim yn golygu ei fod yn dderbyniol.
Ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod cyrchfannau twristiaid a maes carfannau yn gorfod cau. Roedd nifer o feysydd carafanau wedi cau yn barod ond yn dilyn y ffaith bod nifer fawr o dwristiaid wedi mynd mewn torfeydd i gerdded o amgylch atyniadau enwocaf Cymru, fel yr Wyddfa, roedd y Llywodraeth yn dweud bod rhaid cau’r lleoliadau yma. Mae angen ehangu hyn i gau B&Bs a gorfodi pobl i adael eu tai haf. Fel hyn, mae Cymru’n saffach i ddelio efo’r feirws yn gall a bydd gan y GIG lai o bwysau arnyn nhw os does dim twristiaid yn gleifion ychwanegol.

Lefel A: Ffarwel chwerwfelys
Roeddwn i’n paratoi ar gyfer f’arholiadau Lefel A flwyddyn yma a gobeithio derbyn graddau i fynd i’r brifysgol ym mis Medi. Ar ddydd Mercher (18/03), pan roeddwn i’n gwneud gwaith Branwen, cefais wybod bod ysgolion yn cael eu cau o ddydd Gwener (20/03) am o leiaf mis. Mae’n saff i ddweud nad oedd gen i glem beth i feddwl. Roedden ni wedi cael rhybudd gan athrawon gychwyn yr wythnos y buasai posibilrwydd y buasem yn cau o Ddydd Llun (22/03) ymlaen, felly roedd cael gwybod dydd Mercher yn dipyn o sioc. Byddech, byddech chi’n disgwyl i rywun sydd wedi bod yn yr ysgol am saith mlynedd i fod yn hapus cael gadael ond roeddwn i’n teimlo’n gymysglyd yn fwy na dim byd.
Beth oedd yn mynd i ddigwydd ynglŷn ag arholiadau? Ydw i’n mynd i orfod gorffen fy nghyrsiau i adref? Ydw i’n mynd i orfod gyrru tystiolaeth o fy ngwaith i CBAC? Ydw i’n mynd i gael fy ngraddau tebygol yntau ydyn nhw’n mynd i gadw at fy ngraddau Uwch Gyfrannol?
Roeddwn i’n gobeithio y buasai gan athrawon atebion i’n nghwestiynau i ond roedd eu hwynebau ansicr ac eithaf trist yn ddigon i mi wybod nad oeddwn i, fel nifer o bobl yn mynd i gael gwybod. Cyhoeddwyd na fyddaf yn gorfod sefyll arholiadau Lefel A ar ddydd Mercher ac roedd f’ymateb i’n chwerwfelys. Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed am flwyddyn a hanner ac mae ansicrwydd o ran os oes gwerth i’r gwaith yna heblaw am ein graddau UG.

Mesuriadau newydd
Echnos, cafodd mesuriadau newydd eu gosod ar gymdeithas gan y llywodraeth. Rydyn ni’n swyddogol ar lockdown ond does dim angen i bobl fynd i mewn i banic pellach. Yn bersonol, dylai’r llywodraeth wedi dilyn esiampl gwledydd fel De Korea o’r dechrau a dylai’r mesuriadau yma wedi cael eu gosod saith wythnos yn ôl pan roedd yr achos gyntaf o COVID-19 wedi’i gadarnhau yn y DU. Rydych chi ond yn cael mynd i’r siopau ar gyfer y pethau hanfodol, dim ond yn cael mynd allan i wneud ymarfer corff unwaith y dydd. Mae'r rhain yn dilyn agwedd afresymol pobl wrth anwybyddu’r rheolau cadw pellter.

Gwneud y gorau ohoni
Mae’r sefyllfa mewn mwy nag un ffordd yn dorcalonnus. Tydw i ddim yn mynd i gael gweld fy ffrindiau wyneb-yn-wyneb am dipyn o amser. Rydw i’n un am gofleidio ffrindiau a theulu pan rydw i’n eu gweld nhw am y tro cyntaf mewn amser hir neu wrth ffarwelio a tydw i’m yn mynd i allu gwneud hynny am amser hir. Mae Nain yn 82 oed ac i fod yn saff ac yn gyfrifol, rydw i wedi gorfod penderfynu peidio mynd i’w gweld am bythefnos i’w chadw hi’n saff ac mae hynny yn fy ngwneud i’n drist. Tydw i ddim yn cael mynd i’w gweld hi, neu os ydw i, mae’n rhaid i mi gadw fy mhellter. Nain ydi un o fy ffrindiau gorau i yn y byd a tydw i ddim yn mynd i gael y cyfle i gael cwtsh efo Nain. Mae gorfod dod i dderbyn hynny’n anodd.
Hyd yn oed yn y pedwar diwrnod diwethaf rydw i wedi sylweddoli ein bod ni’n cymryd cymaint o bethau’n ganiataol! O fwyd, i’n nheulu, yr hyn rydw i’n gallu gwneud gyda nhw ac i’r hyn sy’n cael ei roi i ni ar blât. Rydw i wedi dod i werthfawrogi teithio, siopau, cynnyrch, cyswllt efo pobl llawer mwy. Mae’r sefyllfa’n gyfnod da i feddwl am yr hyn sydd angen cael eu gwerthfawrogi fwy.
Er gwaethaf y pethau negyddol, mae ochr bositif. Rydw i nawr yn cael gwneud gweithgareddau rydw i wedi bod eisiau gwneud ers tro byd. Rydw i’n mynd i fod yn sgetsho pob dim o ddylunio dillad i sgetsho lluniau o’m ffôn, rydw i’n mynd i fod yn gwneud ioga. Rydw i’n gweithio ar nofel ac mae’r amser adref yn mynd i roi llawer o amser i mi gael gweithio arni, sy’n wych! Un peth arall ydi darllen! Ar gyfer Cymraeg Lefel A, roedd rhaid darllen straeon byrion, cerddi a nofelau oedd yn dilyn themâu oedd yn cyd-fynd â themâu ‘Un Nos Ola Leuad’ gan Caradog Prichard felly mae gen i nofelau sydd wedi bod yn hel llwch ers tro sy’n mynd i gael eu darllen! Byddaf hefyd yn coginio ac yn pobi pan mae gen i’r ysfa i arbrofi efo bwyd.

Byddwch gall
Hoffwn i ofyn i chi wneud y mwyaf o’ch amser chi adref. Peidiwch â threulio gormod o amser ar eich ffonau symudol. O dro i dro, rhowch i’r ffonau i’r neilltu a pheidio mynd ar y cyfryngau oherwydd mae’r rheini'r un mor chwerwfelys â’r sefyllfa ei hun. Mae 95% o bobl yn goroesi o’r feirws yma felly mae’n bwysig ein bod ni’n golchi ein dwylo ac yn cadw o leiaf 2 fedr oddi wrth ein gilydd trwy’r adeg. Rydw i’n erfyn arnoch chi a’ch teuluoedd i fod yn gall, yn ddoeth ac yn ddigynnwrf plîs. Gwnewch y mwyaf o’r holl amser sydd gennych chi adref gyda’ch teuluoedd a byddwch yn amyneddgar gyda’ch teuluoedd a gyda chi’ch hunain. Yn bwysicaf oll, mi ddown ni drwy hwn. Mae hynny’n ffaith i chi oherwydd rydyn ni wastad wedi dod trwyddi.

Ffydd, Gobaith, Cariad.
Lleucu Non x

Pethau y gallech chi eu gwneud yn ystod eich cyfnod adref
• Gwneud ‘bucket list’ o’r holl bethau rydych chi eisiau eu gwneud tra rydych chi adref. Ffordd dda i ddechrau.
• Cysylltwch efo’ch ffrindiau ar FaceTime, mae’n bwysig cadw mewn cysylltiad i wneud yn siŵr bod pobl yn ymdopi.
• Celf a chrefft, o weu i sgetsho i beintio.
• Chwarae gemau fel Scrabble i Monopoly i UNO i Solitaire, beth bynnag sydd ar gael.
• Ysgrifennu dyddiadur o’ch profiadau ar gyfer y cenedlaethau nesaf i ddysgu.
• Gwrandewch ar gerddoriaeth, trio gwrando ar fath gwahanol o gerddoriaeth newydd.
• Darllen: o nofelau i straeon byrion i comics.
• Ymarfer corff, o ioga adref i gerdded y ci pob dydd.
• Arbrofi efo bwyd (er bod bwyd yn cael eu stoc-brynu gan bobl hunanol, mae’n bosib dilyn rysáit newydd ac arbrofi efo bwyd i wneud pryd newydd pob dydd)
• Gwylio ffilmiau, peidiwch â gwneud hyn trwy’r dydd, bob dydd ond mae’n weithgaredd neis i gael tawelwch meddwl ac i fwynhau.
• Garddio, ffordd dda o fyfyrio a gwneud rhywbeth sy’n helpu’r amgylchedd.
• Dysgwch iaith neu offeryn newydd, mae appiau ar gael megis Duolingo lle gallech chi ddysgu iaith newydd, o Ffrangeg i Eidaleg.
• Beth am greu albwm lluniau neu gollage o’ch hoff luniau?
• Os ydych chi mewn sefyllfa lle mae athrawon wedi rhoi gwaith i chi, gwnewch ychydig bach o’r gwaith yna bob dydd.
• Os ydych chi’n taro wal, beth am lanhau eich ystafell a chael deep clean?

Cymuned | Coronafeirws: Covid-19 yn Codi Ofn
bottom of page