top of page

Cymuned | Blwyddyn Newydd, yr Un Hen Fi

Cymuned | Blwyddyn Newydd, yr Un Hen Fi

Gair gan y Golygydd, Llinos Dafydd

Ar drothwy blwyddyn newydd arall, dwi yma i rannu un neges fach gyda chi. Cyfrinach, a dweud y gwir. Blwyddyn newydd, fi newydd? Pfft - dim diolch!

"Blwyddyn newydd, yr un hen fi."

Amdani!

Does ‘na ddim ‘fi newydd’ yn 2022 - a byswn i wir yn eich annog chi gyd i beidio â rhoi pwysau ar eich hun i newid, jyst achos mai dyna ydy’r ‘norm’.

Wrth gwrs, os ydy newid yn angenrheidiol - ewch amdani. Ond i fi - dwi’n sylweddoli ‘mod i’n ddigon, fel ydw i. Er gwaetha pawb a phopeth, dwi’n ddigon.

Er nad ydw i’n teimlo felly bob un dydd, a rhaid crafu’r gwaelodion weithiau er mwyn teimlo’n ddigon, rhaid ceisio dysgu byw gyda’r da a’r drwg o fod yn bod dynol yn yr hen fyd yma.

Mae yna heriau, mae yna bleserau. Mae yna rwystrau, mae yna uchelfannau. Mae yna bethau sy’n hollti’r galon, a phethau sy’n llonni’r galon.

Yn y flwyddyn newydd, dwi am ganolbwyntio ar un peth - sef gwneud y pethau bychain.

Gall pob un ohonom newid y byd trwy wneud pethau bach bob dydd, er bod llawer gormod yn credu nad oes gennym unrhyw bŵer i wneud gwahaniaeth. Dw innau wedi bod yn yr un cwch, credwch chi fi, lle dwi’n meddwl ‘mod i’n hollol anobeithiol.

Does dim angen gweithredoedd mawrion. Gall y pethau bychain newid popeth.

Gyda geiriau caredig a gwên fach, gallwn wirioneddol wneud gwahaniaeth - boed hynny i un person, neu lawer. Yn bwysicach fyth, gall hynny wneud gwahaniaeth i chi eich hunain.

Camwch i’r flwyddyn newydd fel chi eich hun - a gwnewch y pethau bychain sy’n iawn i chi.

Dyma fi’n eich gadael chi gyda rhai o bigion poblogaidd Lysh Cymru am eleni. Diolch i bob cyfrannwr a darllenydd. Chi wirioneddol werth y byd. A rydych chi’n ddigon.

Llinos x

1. Meddwl, Alopecia a Chroen gyda Lodes MACh
Naomi Rees, 22 oed o Fachynlleth yn rhannu ei stori o fyw gyda gorbryder ac iselder, ac alopecia.
“Siaradwch, gofynnwch am help. Mae hynne yn ei hun yn dangos pa mor gry’ dach chi.”
www.lysh.cymru/lodes-mach

2. Ti’n iwsles
Stori fer fuddugol Gwenno Roberts, enillydd y Gadair yn Steddfod y Sgrin 2021, Ysgol Bro Myrddin
‘wot a lad @llŷr.rh01, twll tȋn sỳms😜🤙’
‘@llŷr.rh01 tn lejynd!’
‘piss off mrs maths🥊 @llŷr.rh01 gwboi chan💪’
Na’r peth, fi yn “un o’r lads” a ‘ma digon o lêdis ar yn hôl i fyd, lwcus ife, aparantli. Ond so nhw’n gwybod pa mor wan i fi rili.
www.lysh.cymru/ti-n-iwsles-gan-gwenno-roberts

3. Galaru am y dyfodol na fydd
Lauren Connelly yn rhannu ei phrofiad personol o ofalu am ei mam sydd â Chlefyd Parkinson. Dyma hi i rannu ei stori.
“Y peth mwya’ pwysig yw bod yna efo nhw, i ddarllen am y cyflwr, a jyst bod yn amyneddgar.”
www.lysh.cymru/galaru-am-y-dyfodol-na-fydd

4. Cip ar Y Pump: Tim, Tami, Aniq, Robyn a Cat.
Cyfres o bum nofel am bum ffrind gan bum awdur a chyd-awdur ifanc yw Y Pump sy'n dathlu amrywiaeth Cymru heddiw, gan archwilio pynciau fel hil, rhyw ac iechyd meddwl.
“Dwi eisio rhoi cwtsh iddi…”
“Mae angerdd yn rhedeg trwy wythiennau’r gyfres yma…”
“Mae hon mor gyfoes, modern a chredadwy. Yn gymaint fwy o hwyl na Kate Roberts (sori!)…”
www.lysh.cymru/cat
www.lysh.cymru/robyn
www.lysh.cymru/tami
www.lysh.cymru/adolygiad-tim-y-pump
www.lysh.cymru/sgwrs-am-aniq

5. Cara dy gorff, cara dy hun
“Dim ond fi, fy mola hyfryd a fy nghoesau lysh yma i dy di atgoffa bod ‘blwyddyn newydd’ yn llythrennol yn golygu ei bod hi’n fis Ionawr eto. Ionawr oedd hi flwyddyn yn ôl a bydd hi’n Ionawr eto mewn blwyddyn. Alli di fyth bwlio dy gorff bob mis Ionawr a disgwyl iddo newid dy fywyd.” – Mari Gwenllian
www.lysh.cymru/neges-atgoffa-cara-dy-gorff

Cymuned | Blwyddyn Newydd, yr Un Hen Fi
bottom of page