top of page

Cymuned | Annibyniaeth… Dyna Dwi Isho!

Cymuned | Annibyniaeth… Dyna Dwi Isho!

Gofynnwch i unrhyw ferch 14 oed arall beth fydden nhw ei hoffi gael fwyaf yn 2021, mae’n siŵr y cewch atebion fel - y palet colur drytaf, yr iPhone 12 newydd, neu efallai gael digon o bres i allu mynd i siopa bob dydd. Ond i mi fuaswn i’n hoffi annibyniaeth i Gymru.

Mae rhai yn dweud nad ydi o yn realistig i Gymru gael annibyniaeth, ei bod yn wlad rhy fach, ond mae Cymru wedi gallu profi yn y gorffennol ein bod yn wlad gref, mi aethom i rownd gynderfynol yr Ewros yn 2016, mae llawer iawn o bobol enwog wedi dod o Gymru - Tom Jones, Shirley Bassey, Gareth Bale, Tanni Grey-Thompson a chymaint mwy, mae’n anhygoel pa mor llwyddiannus mae gwald mor fach yn gallu bod!

Mae YesCymru wedi cyrraedd dros 16,000 o gefnogwyr fel yr ydw i yn ysgrifennu hwn ac mae’n siŵr erbyn yr amser i chi ei ddarllen bydd yna lawer iawn mwy, ond fel yr ydw i yn gweld y nifer o aelodau yn mynd i fyny bob dydd, dwi’n sylwi - waw - mae cymaint â hyn o bobol wedi gweld y goleuni i ymaelodi, ac mae pob un unigolyn yn dod a ni gam yn agosach at beidio fod o dan reolaeth San Steffan, sy’n rhoi mwy o gyfleoedd i ni fel gwlad.

Y gwir ydi, dydi Cymru ddim yn wlad fach. Efallai ei bod hi’n fach o ran maint, ond mae hen ddigon o boblogaeth iddi i allu fod yn wlad rydd. Mae Cymru yn wlad digon cryf a digon abl i fod yn annibynnol, ac yn fy marn i, dwi’n meddwl ein bod yn haeddu sefyll ar ein traed ein hunain.

Mae cymaint o ymdrech a brwdfrydedd yn cael ei ddangos gan bob aelod, rydym yn chwifio ein baneri, rydym yn gosod sticeri, rydym yn trafod, addysgu, rydym yn ysgrifennu, rydym yn cynnal cyfarfodydd a gorymdeithiau sydd yn profi faint mae'r Cymry eisiau annibyniaeth a faint mae’n ei olygu i bob un ohonom.

Mae llyfr newydd Anibyniaeth - Independence gan Mari Emlyn yn llawn darnau a rhesymau gan gefnogwyr (yn cynnwys fi) pam eu bod nhw’n gefnogol i annibyniaeth, ac mae’n anhygoel gweld yr amrywiaeth o bobol sydd wedi ysgrifennu yno. Mae ganddom ni i gyd yr un weledigaeth, ond mae pawb a’i reswm ei hun dros gefnogi YesCymru.

Rhydd i bawb ei farn ei hun ar annibyniaeth a dwi’n parchu hynny, ond efallai rhywbryd stopiwch a meddwl beth fydd y manteision o gael yr hawl i redeg ein gwlad ein hunain o’i gymharu â’r sefyllfa rydym ynddi heddiw. Ac os ydych yn newid eich meddwl, ceisiwch berswadio eraill i wneud yr un peth.

Diolch am ddarllen - ac ymlaen! Annibyniaeth amdani! Diolch am ddarllen,

Nel x

Cymuned | Annibyniaeth… Dyna Dwi Isho!
bottom of page