Cymuned | ‘Heno’ gan Iestyn Gwyn Jones
Weithiau mae angen ysgrifennu lawr dy feddyliau a’i darllen nhw achos mae gwneud hynny’n dangos i ti bod rhywbeth wir yn bod.
Wnes i ysgrifennu'r gerdd Heno fel crynodeb sydyn ar notes ar fy ffôn. Mae cymaint o haenau, cymaint o linellau sy’n gallu meddwl cymaint o bethau gwahanol. Mae fyny i chi ddewis beth mae e’n ei olygu i chi.
Sai’n meddwl mod i erioed wedi bod mor onest a di-ffilter â hyn erioed o’r blaen.
Dyw’r gerdd ddim yn sôn am unrhyw ddiwrnod penodol. Felly cofiwch, falle bod rhywun yn teimlo fel hyn Heno hefyd.
- IGJ
HENO
Heno nes i grio.
Eistedd mewn ystafell oer a theimlo
Dagrau yn llifo lawr fy moch.
Mae’n brifo
Wrth weld bywyd gan dynnu’r actio.
Gweld y mwg yn clirio.
Gweld fy mod yn un mewn byd o gerdded heibio.
Yn blentyn mud heb neb yn symud ato.
Do.
Heno nes i grio.
A mae cyrraedd fory’n gwneud i’r dagrau lifo.
Pob dydd yn herio
Bodoli a’r gallu i atgyweirio
Yn torri’n ddarne mewn gwagle di-flino.
Dwi’n brifo.
Ond daw haul ar fryn eto.
Rhaid cadw’n gryf mewn cur a chofio.
Ni fydd bywyd wedi’i berffeithio
Ond oleua fe gawn ni gofleidio.
Iestyn Gwyn Jones