Adloniant | Mari'n Mwydro!
Bydd ddewr, bydd gryf, bydd yn chdi dy hun
Dyma golofn y cyflwynydd hyfryd Mari Lovgreen, sy’n ei dweud hi fel mae hi...
Mae yna gymaint o betha fyswn i’n licio’u dweud wrth fy teenage self os fysa’r ffasiwn beth yn bosib. Dwi ’di treulio 36 o flynyddoedd ar y blaned yma rŵan, ac mewn lot o ffyrdd, dwi ddim yn teimlo rhy wahanol i sut o’n i’n teimlo’n bymtheg oed. Ond un peth sy’n wahanol iawn ydi mod i’n poeni lot llai. Poeni lot llai am lot o bethau. Felly dyma restr o bethau i beidio gwastraffu egni prin yn poeni amdanyn nhw (fel wnes i); achos, yn syml, mae bywyd jyst rhy fyr (coeliwch fi, sut ddiawl dwi bron yn 40?!).
1. Dy edrychiad.
Paid â chael fi’n rong, dwi’n dal i boeni am hyn, achos yn anffodus ’dan ni’n cael ein bombardio’n bob man efo sut ddylen ni edrych. Delweddau o bobl berffaith (filtered) ar Instagram... y dillad perffaith... y colur perffaith...bla bla bla. Coelia fi, ma’r holl beth jyst yn ffordd o wneud pres. Yn ôl y sôn, gath y syniad fod cellulite yn beth hyll a drwg ei greu gan rywun oedd jyst isio gneud ffortiwn yn gwerthu stwff i gael gwared ohono. Mae gan fy merch pedair oed dimples ar dop ei choesau pan mae hi’n eistedd FFS (ffor fyj sêcs), dyma sut ma croen yn edrych pan mae ‘na pressure yn cael ei roi arno!! Wnes i dreulio lot gormod o amser yn poeni am fy nghorff. Ro’n i’n hollol flat chested ac oedd gen i groen drwg ar fy nghefn. Dau beth nath achosi lot o boen meddwl i fi. Ond be wnes i sylwi ydi fod 'na bobl ofnadwy o ddel dwi rioed ’di ffansio, a phobl dwi wedi ffansio ond fysa byth yn cael mynd yn agos at Love Island. Achos mae o rili yn wir be maen nhw’n ei ddeud, be sydd ar y tu mewn sydd bwysica. Hyn a hyder yn pwy wyt ti. Ar y llaw arall os oes yna rywbeth sydd wir yn dy boeni, mae o werth ei sortio. Ges i help dermotologist efo fy nghroen ryw ddwy flynedd nôl, a dwi’n difaru peidio mynd yn gynt. Ddyla neb ddioddef yn dawel na theimlo cywilydd dros rywbeth sydd yn hollol normal a chyffredin.
2. Ffitio i mewn.
Am ryw reswm does yna ddim byd yn gneud y rhan fwyaf o teenagers yn hapusach na blendio mewn. Pawb i wisgo’r un fath, actio'r un fath (a chal eyebrows yr un fath). Dwi’n meddwl ddyla pawb neud be sy’n eu gwneud nhw’n hapus ac sy’n rhoi pleser iddyn nhw heb boeni os ydi o’n cŵl neu beidio. Rheol aur - os wyt ti isio gneud rhywbeth, a dydi o ddim am frifo neb, gwna fo!
3. Be mae pobl eraill yn feddwl.
Cofia’r dywediad - ‘What other people think or say about you is none of your buisness’. Pam treulio amser yn meddwl beth mae pobl eraill yn feddwl?! Dydan ni byth am blesio pawb. Mae yna rai pobl sydd wastad am fod yn negyddol - eu problem nhw ydi hynny, dim dy broblem di. Mae trio newid a phlygu pwy wyt ti i blesio pobl eraill yn waith blinedig ofnadwy. Stopia! Fydd ffrindiau go iawn eisiau dy weld di’n hapus ac yn dy gefnogi yn beth bynnag wyt ti’n dewis ei wneud. Os nad ydyn nhw - pam bo chi’n ffrindiau? Harsh ond gwir!
4. Ffeindio cariad.
Ges i ddim cariad tan o’n i’n 18 oed. O’n i’n desperate am gariad ers o’n i’n tua 11. Yn arfer breuddwydio am gerdded rownd yr ysgol amser chwarae yn gafael dwylo, a snogio tu ôl i’r lle French ac mewn gigs. Os wyt ti fel o’n i, jyst mwynha dy ffrindiau a’r holl hwyl ’da chi’n gallu ei gael pan yn ifanc. Ma gen ti weddill dy fywyd i fod mewn perthynas, does yna ddim brys o gwbl. Dydi’r ffaith fod gen ti ddim cariad, neu fod yna neb yn dangos diddordeb ddim yn golygu fod yna rywbeth yn bod efo chdi. Does 'na ddim byd yn bod efo chdi o gwbl. Wyt ti’n sylwi faint o wyrth ydi dy fodolaeth di?! (Yr ods fod y sberm nath dy greu di yn cyrraedd yr ŵy gynta ac yn ennill y ras? 1 mewn 400 triliwn.)
5. Arholiadau.
Os ti heb wrando ar y gân Baz Luhrmann, Everybody’s Free To Wear Sunscreen - MA RHAID I CHDI WRANDO ARNI (yn syth ar ôl gorffen darllen hwn). Ma’r gân yn anthem epig am fywyd, ac yn deud fod 'na rai o’r bobl fwya diddorol ar y blaned dal ddim yn siŵr be maen nhw am wneud efo’i bywydau pan yn 40 oed (ffiw). Ella dy fod di heb ffeindio’r hyn ti am fod yn angerddol drosto fo eto. Gei di gyfle mewn bywyd i drio lot o sgiliau gwahanol a gweld be ti’n ei fwynhau. Fyswn i’n deud bod mwynhad yn bwysicach na phres. Paid â dewis llwybr gyrfa jyst achos bod o’n gaddo cyflog mawr. Mae ffeindio rywbeth ti’n ei fwynhau yn werthfawr iawn. Os ti’n enjoio dy waith, di o ddim am deimlo fel gwaith. Tria dy ora, ond paid â rhoi pressure gwirion ar dy hun. Mae yna lot mwy i fywyd na graddau. Os fyswn i’n cyfarfod chdi fory, fysa gen i fwy o ddiddordeb gweld pa mor ffeind wyt ti na pa farc ges di yn dy brawf diwethaf.
6. Peer pressure.
Mae dysgu sut i ddeud ‘na’ i bethau moooooor braf. A dim gneud esgusodion chwaith, jyst deud y gwir. “Na, sgen i ddim myned nac egni i ddod efo chi nos fory - tro nesa ella, diolch am y cynnig”. Os ti ddim ffansi gneud rhywbeth, paid. Fydd y noson dal i fynd yn ei blaen hebdda chdi coelia neu beidio, neith y byd ddim stopio os ti’n dewis peidio mynd (ti ddim mor bwysig â hynna ;) ). Oes, ma angen gwthio dy hun weithia, ond gwranda ar dy gut a dy gorff - pwysig iawn os ti isio meddwl iach.
Dwi’n siŵr fysa’r rhestr yma’n gallu mynd mlaen a mlaen ond dwi ’di cael digon o deipio os dwi’n onest (bywyd rhy fyr). Dwi am orffen efo brawddeg sy wedi aros efo fi ers tipyn o flynyddoedd rŵan: Treat yourself like someone you love. Chdi ydi ffrind gora dy hun; edrycha ar ôl dy hun a bydda’n ffeind.
Y diwedd!
M x