Adloniant | Lodes Lysh: Casia Wiliam
Pwy sy’n hoffi odli a barddoni? Mae’r lodes Lysh yma wrth ei bodd gyda geiriau – a hi yw Bardd Plant Cymru ar hyn o bryd! Dyma ddysgu rhagor am Casia Wiliam, cyn iddi drosglwyddo ei choron fel Bardd Plant i Gruffudd Owen.
Enw llawn?
Casia Lisabeth Wiliam
Oed?
31
Lle wyt ti'n byw?
Yng Nglan yr Afon yng Nghaerdydd gyda Tom fy ngŵr a Caio Gwilym ein mab.
Wyt ti wastad wedi mwynhau ysgrifennu?
Ydw wir! Stori a llun oedd fy hoff weithgaredd yn yr ysgol gynradd. Rydw i wastad wedi mwynhau clywed a darllen stori hefyd – dwi’n meddwl mai dyna sut mae rhywun yn dod i fwynhau ysgrifennu, wrth fwynhau darllen neu wrando ar straeon.
Wyt ti’n cofio beth oedd dy gerdd gyntaf di? Rhanna hi!
Ges i fy magu ar dŷ ffarm ac roedd lôn fferm chwarter milltir o hyd rhwng tŷ ni a’r lôn fawr. Rydw i’n cofio beicio nôl a mlaen rhwng y tŷ a’r lôn, nôl a mlaen a nôl a mlaen yn cyfansoddi cerddi a chaneuon bach yn fy mhen! Ond yn anffodus tydw i ddim yn cofio beth oedd fy ngherdd gyntaf – sori!
Beth neu bwy sy’n dy ysbrydoli?
Rydw i’n cael fy ysbrydoli trwy’r amser. Fedra i gael fy ysbrydoli tra dwi’n gwneud neges yn Tesco wrth glywed sgwrs ddoniol rhwng dau berson, neu wrth feicio trwy ganol Caerdydd a gweld rhywbeth diddorol yn digwydd. Mae plant yn fy ysbrydoli hefyd – maen nhw yn llawn syniadau gwych! Os ydy’ch llygaid chi ar agor, a’ch clustiau chi ar agor, buan y dewch i weld bod ‘na ysbrydoliaeth ym mhob man.
Sut brofiad yw hi i fod yn Fardd Plant Cymru?
Gwych a gwallgo a phrysur!
Beth yw dy hoff air Cymraeg?
W, cwestiwn da. Dwi’n licio rwdlan – gair gogleddol am fwydro neu falu awyr – “O paid a rwdlan!” Dwi hefyd yn licio’r gair ciando – hen air Cymraeg am wely. “Nos da dwi’n mynd am y ciando!”
Beth yw dy hoff ddywediad Cymraeg?
Rhaid cael pîg glân i ganu.
 hithau’n wythnos fawr – yn wythnos Eisteddfod yr Urdd, beth yw dy hoff beth di am yr ŵyl?
Gweld talentau anhygoel plant Cymru. Mae fy ngwneud i’n hapus iawn ac yn hyderus iawn bod yr iaith Gymraeg yn fyw ac yn iach.
Pam ddylai darllenwyr Lysh fynd i Eisteddfod eleni?
Mi fydd hi’n Eisteddfod wych yn ein Prif Ddinas! Cyfle gwych i gymdeithasu, cwrdd â ffrindiau, gwneud ffrindiau newydd, cystadlu, cefnogi ffrindiau sy’n cystadlu, mynd i’r ffair, bwyta sothach, a chael gweld Bae Caerdydd yn llawn bwrlwm Cymraeg. Pam fasa ti ddim yn mynd?!
Diolch Casia! Dyma un o’i cherddi:
Bwytais y Bydysawd
Un Dydd Llun diflas llwyd, doddwn i ddim awydd fy mrechdan gaws, felly, bwytais y bydysawd.
Doedd dim byd haws, llyncais y planedau a’r sêr, eu golau fel morfilod yn nofio yn fy mol.
Yna, dyma gnoi y galaethau fesul un a llyfu fy ngweflau wrth iddynt sglefrio lawr fy ngwddf.
Egni, amser a gofod; claddais y cwbl mewn cegiad.
Y byd, yr haul a phob lleuad yn llithro ar fy llwy, i mewn â nhw!
Dawnsiodd llwch gofodol aur ar fy nhafod. Ac yna cefais afal i bwdin.
Nawr, dwi’n gwybod y galla i wneud unrhyw beth, mynd i unrhyw le,
oherwydd mae’r bydysawd i gyd y tu mewn i mi’n barod. Edrych, dacw fe.
Casia Wiliam