top of page

Adloniant | Insta-wên ar Instagram: Cyfrifon Instagram Ysbrydoledig

Adloniant | Insta-wên ar Instagram: Cyfrifon Instagram Ysbrydoledig

Mae’r byd yn gallu bod yn lle prysur a llwm ac mae dianc i’r byd digidol am saib weithiau yn gwneud synnwyr.

Wrth sgrolio ar ein ffonau, mae’n anochel fod newyddion drwg am ein baglu. Er ein bod ni’n bwriadu hoffi lluniau gwyliau ein ffrindiau neu chwilio am ddiweddariad ar fywyd seleb, mae newyddion drwg wastad yno’n cuddio yn y cloddiau, yn barod i’n brawychu a sbwylio’r saib. Y peth diwethaf mae rhywun eisiau ydi ymosodiad gan newyddion llwm wrth edrych ar fideos doniol o gŵn bach!

Felly, sut allwn ni osgoi'r newyddion negyddol yma?

Yr ateb... curadu eich ffrwd!

Ystyriwch eich ffrwd gymdeithasol fel eich galeri gelf bersonol chi a chi ydi’r curadur. Eich swydd chi ydi addurno’r muriau gyda chelf sydd yn apelio i chi.

Mae’r un peth yn wir gyda’ch ffrwd gymdeithasol. Addurnwch eich ffrwd gyda chyfrifon a ffrindiau sy’n apelio i chi!

Tips Curadu Ffrwd

1. Peidiwch â bod ofn y botwm “unfollow”!
Mae eich ffrwd yn bersonol i chi felly chi sy’n dewis pa gyfrifon sydd at eich dant chi a pa gyfrifon fysa’n well ganddoch chi i beidio gweld eu cynnwys.

2. Cyfrifon newyddion... Dach chi wir eisiau dilyn nhw?
Mae dilyn cyfrifon newyddion ar gyfryngau cymdeithasol yn gallu bod yn ffordd dda o dderbyn newyddion a chadw yn y lŵp. Ond mae’r newyddion hefyd yn gallu bod yn lle tywyll a llwm... Yda chi wir eisiau hynny yn eich ffrwd chi?
Mae’r newyddion yn hawdd i’w gyrraedd pan fyddwch chi eisiau ei ddarllen, felly gwnewch hynny ar eich liwt eich hun drwy ymweld â gwefannau newyddion yn hytrach na gadael i’r newyddion taflu baw ar hyd eich ffrwd!

3. Dilynwch gyfrifon sydd yn eich ysbrydoli ac yn gwneud i chi wenu!
Mae'n bwysig fod eich ffrwd yn le diogel i chi allu ei fwynhau.

Dyma gynigion Lysh o gyfrifon Instagram sy’n ein hysbrydoli:

Huns Cymru (@hunscymru)
Mae’r cyfrif yma yn un da am godi calon, drwy rannu cynnwys amserol, doniol ac weithiau gwirion - fel y post yma sy’n nodi tebygrwydd rhai o ferched mwyaf adnabyddus Cymru... a chesys pensiliau!

Mari Gwenllian (@h.i.w.t.i)
Gyda phersonoliaeth siriol sy’n hynod o heintus, mae Mari Gwenllian yn ein hybu ni gyd i garu’n hunain yr union fel rydym ni! Wrth ei dilyn hi, allwch chi ddisgwyl reels doniol ac ysbrydoledig sydd yn siŵr o roi unrhyw un sydd angen help llaw ar ben ffordd wrth fynd ar siwrnai i ddatblygu hunanhyder.

Leila Navabi (@leiladoesinsta)
Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae’r diddanwr Leila yn rhannu ei hanes a’i gwaith ar ei chyfrifon cymdeithasol gydag agwedd agored ac onest, sy’n hynod o ysbrydoledig. Yn ei gyrfa comedi, mae hi’n mynd o nerth i nerth ac rydym yn cadw llygaid ar ei chyfrif i weld beth y bydd hi’n ei wneud nesaf!

Sian Eleri (@sianelerievans)
Ddim yn aml mae rhywun yn clywed acen Gymraeg ar orsaf radio y tu allan i Gymru, ond mae Sian Eleri wrthi’n brysur yn cyflwyno rhaglenni cerddoriaeth ar BBC Radio 1! Fyddwch chi’n rhyfeddu ar ei chynnwys, yn rhannu lluniau o’r enwogion mae hi’n eu cyfarfod, fel Lewis Capaldi a Jorja Smith.

Bronwen Lewis (@bronwenlewis)
Mae angen gwylio cynnwys Bronwen gyda phwyll, oherwydd mae’n hawdd iawn i rai o’r caneuon yma sticio yn eich pen am ddyddiau! Cantores ydi Bronwen, sy’n hen law ar gyfieithu caneuon cyfoes i’r Gymraeg mewn ffordd arbennig. Mae ei chyfieithiadau yn cadw at wraidd a neges y caneuon, bron fel mai yn y Gymraeg ysgrifennwyd y caneuon i gychwyn!

Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn llawn dop o bositifrwydd, ond i chi edrych yn y llefydd iawn!
Ond cofiwch, tydi curadu eich ffrwd i greu ardal ddiogel i chi ddim yn golygu ei fod o’n beth iach i aros yn y byd digidol am oriau maith!

Adloniant | Insta-wên ar Instagram: Cyfrifon Instagram Ysbrydoledig
bottom of page