top of page

Adloniant | Gwirioni, Gwerin, Gwreiddiau

Adloniant | Gwirioni, Gwerin, Gwreiddiau

Mari Mathias â’i halbym newydd
Wyddoch chi sut i briodi sain gwerin Cymru efo cerddoriaeth gyfoes ein byd ni heddiw? Wel, mae Mari Mathias yn gwybod yn union sut i wneud. Yn ei halbwm diweddaraf, ‘Annwn’, mae Mari yn llwyddo i weddu’r ddau fyd. Dyma gyfweliad arbennig gyda'r gantores sy'n wreiddiol o Ddyffryn Teifi...

Yn un â byd natur

I gyd-fynd gyda’r gân ‘Annwn’ mae fideo sy’n adrodd stori hudol. Yn y fideo, gwelwn Mari yn cael ei thrawsnewid mewn golygfeydd gafodd ei ysbrydoli gan steil sinema rhaglenni fel American Horror Story.

“Y syniad oedd bod yr anifeiliaid yn denu fi mewn i’w byd nhw ac yn fy nhrawsnewid i mewn i dylluan, anifail fel un ohonyn nhw. O'n i moyn defnyddio’r syniad o newid hinsawdd a phobl yn cymryd dros fyd natur, ac yn y fideo yma yn hytrach roedd byd natur yn cymryd drosodd. Mae fel fy mod i’n rhan o fyd natur yn y diwedd, yn rhan o’r goedwig ac yn rhan o’u byd nhw.”

Mae Mari yn llwyddo i weddu traddodiad gwerin gyda’r byd cyfoes mewn ffordd na welson ni o’r blaen. “Mae e’n rhoi nod i fytholeg Cymraeg, y Mabinogi a chymeriad Blodeuwedd, ond hefyd mae yna elfen eithaf cyfoes amdano fe. Dwi’n credu bod e’n bwysig cadw straeon gwerin yn fyw mewn ffordd. Mewn byd llawn technoleg, mae pethau traddodiadol, fel rhannu straeon fel oedd pobl arfer gwneud mewn tafarndai neu yn nhai ei gilydd, yn dechrau mynd mewn ffordd a fi ishe trio dal 'mlaen ar y traddodiadau hynny ond hefyd trio cysylltu efo cynulleidfaoedd modern heddiw hefyd.”

Gyda fideo mor hudol, mae’r gwaith aeth i mewn iddo yn glir a Mari fel tasa hi wedi cael ei geni i fyd y fideos miwsig. Mae’n anodd credu mai dyma fideo cyntaf Mari!

“Fi heb neud fideo miwsig fel hyn o’r blaen, felly oedd hwnna’n newydd i fi,” meddai. “Fi wedi gwneud lot o bethe o flaen camera, actio a bod ar lwyfan felly doeddwn i ddim yn rhy anghyffyrddus yn y sefyllfa yma. Ond dyma’r tro cyntaf i fi neud fideo gyda fy miwsig fy hun, felly roedd hwnna’n brofiad rili sbeshal.”

Adlais o’r gorffennol

Yn y gân ‘Annwn’ gallwn glywed rhyw adlais o’r gorffennol. Eglura Mari mai darn o recordiau ei hen dad-cu ydi’r sain, ac ar hyd yr albwm cyfan mae adleisiau o’r gorffennol wedi eu gwasgaru. Roedd hen dad-cu Mari, neu ‘Dats’, yn hen law ar recordio synau bob dydd. Sawl degawd yn ddiweddarach, mae Mari yn defnyddio’r recordiau yn ei halbwm.

“Wnes i ddarganfod tapiau cassette Dats, fy hen dad-cu, yn ystod y cyfnod clo a nes i wrando arnyn nhw am orie,” eglura Mari. “Roedd e’n recordio orie o fywyd yn y tŷ, sŵn y radio, teledu, yr adar yn yr ardd. Oedd rhywbeth hudol amdano fe, y cysylltiad yna efo teulu o’n i heb gwrdd â nhw.”

Mae’r hud yn nhapiau ei thad-cu yn cael ei dywys ymlaen i gerddoriaeth Mari, wrth iddi ddefnyddio’r samplau yn ei chaneuon. “O’n i wedi defnyddio samplau o’r tapiau yma yn yr albwm a chi’n clywed lleisiau o’r gorffennol fel adlais, lleisiau teulu ac mae hwnna’n bwysig iawn i fi. Y syniad yna o basio rhywbeth ymlaen i’r genhedlaeth nesaf,” sonia Mari.

Gwrieddiau o greadigrwydd

“Ges i fagwraeth greadigol iawn,” meddai Mari. Yn ogystal â chysylltu efo’i chyndeidiau, mae Mari yn cysylltu’n greadigol gyda’r teulu agos hefyd. Yn fideo ‘Annwn’, gwelwn gymeriadau mewn penwisgoedd trawiadol yn portreadu anifeiliaid y goedwig.

“Dad oedd wedi creu'r penwisgoedd allan o ffelt, flynyddoedd yn ôl. Fi wastad wedi dweud bo fi moyn defnyddio nhw,” dywed Mari. “Roedd Dad wedi eu creu nhw ac oedd e’n mynd i ddefnyddio nhw mewn gwyliau... ond daeth Covid! Maen nhw wedi bod yn styc lan yn yr atig adre, ond o’n i fel ‘Reit, mae ishe neud rhywbeth ‘da nhw!’.

Ond nid dim ond ei thad sy’n cael dylanwad creadigol arni.

“Mae Mam (Meinir Mathias) yn artist ac mae hi wedi rili ysbrydoli fi. Cafodd fy sengl gyntaf i, ‘Rebel’, ei ysbrydoli o’i phaentiad olew hi o gymeriad Twm Carnabwth, un o Ferched Beca. Wnes i eistedd yn stiwdio Mam un diwrnod a jest ‘sgwennu geirie. O’n i’n teimlo a gweld drwy’r llun, a dyna wnaeth ysbrydoli ‘Rebel’.”

Mae albwm Mari Mathias, ‘Annwn’, allan nawr. Ond byddwch yn ofalus... bydd swyn yr alawon yn eich hudo i ddawnsio!

Adloniant | Gwirioni, Gwerin, Gwreiddiau
bottom of page