top of page

Adloniant | Glain, â’i Sain ei Hun

Adloniant | Glain, â’i Sain ei Hun

O berfformio ar fynyddoedd llechi i lwyfannau dramor, mae’r gantores Glain Rhys ymysg y dalent mwyaf unigryw Cymru.

Yn ei fideo diweddaraf, mae Glain yn perfformio cân mae hi wedi ei chyfansoddi ei hun, sef ‘Sara’, ac yn gwneud hynny gyda balchder yng nghefn gwlad ei chynefin. Mae’r gân yn ymateb i ‘Jolene’ gan Dolly Parton, yn cynnig beth fydd safbwynt y cymeriad Jolene. Er hynny, mae hi ymhell o’r genre canu gwlad a sain Dolly Parton. Yn hytrach, mae Glain yn hawlio sain ei hun ac yn llenwi ei chân gyda hud a swyn sy’n galw arnom ni wrando.

Cafodd Lysh Cymru y cyfle i holi Glain am ei gwaith, a dyma ddechrau trwy ofyn iddi sut oedd hi’n teimlo wrth ryddhau ei gwaith diweddaraf i’r byd?

GLAIN RHYS: Dwi byth yn gwbod be i’w ddisgwyl wrth ryddhau fy ngwaith i’r byd. Yn amlwg mae cerddoriaeth yn subjective a dydi fy ngherddoriaeth i ddim am apelio at bawb, ond os dwi’n falch ohono fo ac yn hapus hefo fo, dyne i gyd sy’n bwysig.

LYSH CYMRU: Ti wedi trafeilio dramor hefyd, fel i Groeg yn sioe The Phantom of the Opera. Sut brofiad oedd hynny, i fynd o gefn gwlad Cymru i lwyfan dramor mewn sioe mor adnabyddus?

GR: O’n i’n lwcus iawn i gael gwneud fy swydd broffesiynol gyntaf allan yng Ngroeg cyn y pandemig a ges i’r amser gore erioed. Dwi 'di bod allan yno unwaith ers hynny, a dwi wrth fy modd hefo’r wlad. Mae hi mor wahanol i Brydain yn ei ffordd a’i thraddodiadau, ond dyne sy’n braf am gael mynd dramor ynde! Dwi’n caru bod adre ond dwi’n caru’r teimlad o annibyniaeth pan dwi mewn dinas!

LC: Yn ogystal â pherfformio, ti’n sgwennu dy ganeuon dy hun hefyd. O ble wyt ti’n cael dy ysbrydoliaeth?

GR: Mae ysbrydoliaeth yn dod o lefydd gwahanol bob tro. Digwydd bod, mae’r senglau diweddaraf wedi eu hysbrydoli gan adre, a bod nôl adre yn ystod y cyfnod clo.

LC: Pa mor bwysig ydi o dy fod di’n creu cerddoriaeth Cymraeg? Wyt ti’n dewis iaith i sgwennu ynddi, neu ydi’r iaith yn dibynnu ar dy ysbrydoliaeth?

GR: Mae’n dibynnu be di’r sefyllfa. Weithiau, dwi’n sgwennu’n fwy naturiol yn Saesneg, ac weithiau yn Gymraeg. Eto dwi’n meddwl ei fod o’n dibynnu ar y naratif a gyda phwy dwi’n siarad, be di’r sefyllfa ac ati.

LC: Be sydd nesa? Oes mwy o ganeuon ar y gweill neu berfformiadau?

GR: Pwy a ŵyr beth sydd nesaf, dwi’n cymryd un dydd ar y tro ar hyn o bryd, ond dwi’n gweithio’n galed ar ryddhau albwm yn fuan gobeithio. Ma' albwm yn waith caled ac mai’n anodd dod o hyd i amser lle ma' pawb ar gael!! Hefyd dwi’n gobeithio gallu perfformio’n fyw lot mwy eleni, fydde hynne’n grêt!

Adloniant | Glain, â’i Sain ei Hun
bottom of page