Adloniant | Canu yn America
Sgwrs gyda Siriol Elin
Eleni, mae’n ben-blwydd arbennig ar Mistar Urdd ac mae ieuenctid Cymru ar hyd a lled y wlad wedi bod yn dathlu. Ond, nid dim ond yng Nghymru y mae’r dathlu mawr.
Newydd ddychwelyd o’u trip i Philadelphia yn America mae cantorion Siriol Elin a Manon Ogwen, ynghyd â Dafydd Jones a Tomos Gwyn. Mentrodd y pedwar dros y dŵr er mwyn perfformio mewn cyngerdd arbennig i ddathlu canmlwyddiant mudiad yr Urdd.
I wybod mwy am y trip a’r profiadau arbennig, holodd Lysh ychydig o gwestiynau i Siriol Elin a soniodd sut y buon nhw’n sêr rhaglen newyddion draw yn Philadelphia!
Lysh Cymru: Mae’n swnio fel eich bod chi wedi cael amser gwerth chweil! Fedri di ddweud ychydig mwy am y trip?
Siriol Elin: Y peth cynaf i ni wneud ar ôl cyrraedd oedd cael ymarfer gyda’r cyfeilydd a hefyd cael ein hymarfer cyntaf ni fel pedwarawd! Y bore canlynol roeddem yn canu yn y City Hall yn Philadelphia mewn seremoni agoriadol lle'r oedd y Maer yn siarad yn ogystal ag aelodau o Lywodraeth Cymru. Yna, fe aethom yn syth i Macy’s i ganu i gyfeiliant yr organ mwyaf yn y byd. Roedd hynny’n brofiad bythgofiadwy.
Ar y dydd Iau, roedd cyngerdd dathlu canmlwyddiant yr Urdd mewn neuadd berfformio ble cawsom gyfle i ganu caneuon yn unigol a hefyd fel pedwarawd. Ar ein diwrnodau olaf, fe wnaethom flashmob o amgylch y ddinas ac roedd hynny’n brofiad hollol newydd! Ar y noson olaf, roedd cyfle i ni fynd i banquet lle'r oedd Dafydd Jones yn ein diddanu.
LC: Mae’n perfformio yn America yn gyffrous iawn! Sut brofiad oedd perfformio mor bell o adra?
SE: Roedd yn brofiad anhygoel canu yn America a chael y cyfle i ganu mewn mannau hollol wahanol i’r arfer. Dwi wedi hefyd cael y cyfle i wneud cysylltiadau gydag unigolion o America a gwneud ffrindiau newydd!
LC: Mae gan y pedwar ohonoch chi steil canu gwbl wahanol, a heb ymarfer gyda’ch gilydd nes cyrraedd Philadelphia! Sut brofiad oedd hynny?
SE: Oes, mae gan y pedwar ohonom ni steil gwbl wahanol o ganu! Dwi’n siŵr roedd hyn yn rhywbeth roeddwn ni i gyd wedi meddwl amdani cyn canu gyda’n gilydd ond dwi’n meddwl ein bod ni wedi asio’n dda o fewn amser byr o ymarfer!
LC: Sut oedd yr ymateb gan yr Americanwyr?
SE: Cawsom groeso mawr gan yr Americanwyr ac roedd yn ymateb y grêt! Wedi ni berfformio roedd cyfle i sgwrsio gyda’r gynulleidfa ac mi gefais dipyn o sioc ar ôl clywed ein bod ni wedi bod ar y newyddion yn canu o fewn eitem am yr ŵyl!
LC: Roedd perfformiadau mewn sawl lle ar y trip, ond pa berfformiad oedd fy hoff un?
SE: Heb os, cyngerdd canmlwyddiant oedd yr uchafbwynt oherwydd roedd yn gyfle i ni berfformio darnau unigol o’n newydd ni a hefyd cyfle i ni ganu tri chan fel pedwarawd. Mi ganais ddarn o sioe gerdd a hefyd darn cerdd dant i gyfeiliant John Ieuan Jones.
LC: Pa mor bwysig ydi profiadau fel hyn gyda’r Urdd?
SE: Mae’r profiadau sy’n cael ei gynnig gan yr Urdd i bobl ifanc yn hynod o bwysig. Nid yn unig gan ei fod yn cynnig platform ychwanegol i ni ond mae’n galluogi ni i wneud cysylltiadau o mewn maes penodol. Dwi’n sicr fuaswn i byth wedi cael canu yn America heb y wobr gan yr Urdd ac mae fy niolch i yn enfawr am y cyfle dwi wedi ei gael!
Mae’r Urdd yn cynnig amryw o gyfleoedd i blant a phobl ifanc ledled Cymru ac, yn wir, mae angen manteisio ar bob cyfle! Tybed fyddwch chi’n mynd gyda’r Urdd i ddathlu ein diwydiant dramor rhyw ddydd?