top of page

Adloniant | Allanfa Dân ar dân am fwy o gigs!

Adloniant | Allanfa Dân ar dân am fwy o gigs!

Ar ôl perfformio mewn dwy gig, mae band newydd yn ysu am ragor. Dyma Glain Llwyd o Dal-y-bont, Aberystwyth i sôn am Allanfa Dân...

Yn wreiddiol dim ond y bois oedd yn rhan o’r band ond gofynnon nhw i fi fod yn rhan hefyd. Ffurfio er mwyn cael perfformio yng ngŵyl Aber wnaethon ni.

Ni’n cytuno ar lawer o bethau ond doeddwn ni methu cytuno ar enw (bach o broblem)! Awr cyn y perfformiad, dyma ni’n eistedd yn ystafell gerdd yr ysgol (Penweddig) yn trio penderfynu ar enw. Dyma Fabs yn cynnig yr enw ‘Allanfa dân’ gan fod arwydd allanfa dân ar ddrws cefn yr ystafell. A dyma bawb yn cytuno.

Aelodau’r band yw-

Glain (fi!) - canu
Gruff - canu
Efan - Gitâr
Fabs - bass
Gwion - drymiau

Ni wedi gwneud cover o REBEL gan Mellt (am mai band o Benweddig ydyn nhw hefyd ac maen nhw’n rili cŵl!), ANIFAIL gan Candelas (hoff o’r vibe roc a rôl) CATALUNYA gan Gwilym (cover acwstig, mae’n gân grêt a thiwn rili catchy!!) a RHEDEG I PARIS gan Anhrefn (classic).

Ni’n gweithio ar bethau gwreiddiol ar y funud felly cadwch lygad allan (emoji winc!). Ond ry’n ni’n joio chwarae pob cân gan fod amrywiaeth ym mhob un ohonyn nhw.

Gan mai band newydd ydyn ni, dim ond dwy gig ry’n ni eu gwneud (hyd yn hyn!) ac roedd y ddau yn HOLLOL wahanol! Roedd un ar lwyfan Gŵyl Aber a’r llall yn neuadd yr ysgol o flaen blwyddyn 7!

Disgrifiad o’r band mewn tri gair?
Hwyl, Bywiog, Newydd!

Ein gobeithion yw parhau fel band, ysgrifennu stwff newydd a gwreiddiol ac i gigio mewn llefydd mwy o faint (‘Steddfod o bosib!) a jyst parhau i gael hwyl!

Mae’n anodd dweud lle fyddwn ni mewn pum mlynedd, dim ond Doctor Who fyddai’n medru dweud hynna (sori dw i’n masif nerd)! Ond yn ddelfrydol, byddai perfformio ym Maes B neu yng Ngwobrau’r Selar yn ôsym!

Adloniant | Allanfa Dân ar dân am fwy o gigs!
bottom of page